Craffu Cyn Penderfynu
Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu
cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet aa gyfer yr
Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Rhoi Indemniad Swyddog i
Karen Jones mewn perthynas ag Uned Ddata
Llywodraeth Leol Cymru
(Ailddatganodd Karen
Jones ei budd a gadawodd y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon yn unig)
Diweddarwyd yr aelodau ar y cais
i roi indemniad swyddog i'r Prif Weithredwr yng ngoleuni ei rôl
fel cyfarwyddwr Uned Ddata Llywodraeth
Leol Cymru.
Gofynnodd yr aelodau a fyddai'r
swydd yn derbyn tâl am y gwaith sydd ynghlwm wrthi
Esboniodd swyddogion na fyddai tâl yn cael
ei roi ar gyfer y swydd ac y byddai'r Prif Weithredwr
yn cyflawni'r rôl ar sail wirfoddol oherwydd ei harbenigedd.
Yn dilyn craffu, cafodd yr adroddiad gefnogaeth i fynd gerbron y Cabinet.
Archwilio Cymru - Diweddariad ar Sefyllfa
Ariannol Sicrwydd ac Asesu Risgiau
Cadarnhaodd y Cadeirydd nad oedd gan y pwyllgor craffu gyfres o ymholiadau ar gyfer yr eitem hon, fodd bynnag, nodwyd bod yr Aelod
Cabinet perthnasol yn dymuno
cyflwyno'r adroddiad ar lafar i'r pwyllgor.
Diweddariad mewn perthynas â chyflwyno
Cynllun Cymorth Caledi Castell-nedd Port Talbot
Rhoddwyd diweddariad i'r aelodau
mewn perthynas â chyflwyno
Cynllun Cymorth Caledi Castell-nedd Port Talbot, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Roedd Katie Cook o Gymru Gynnes
yn bresennol yn y cyfarfod
i gyflwyno'r adroddiad.
Cafwyd trafodaethau ynghylch
cysyniad cychwynnol y Cynllun Cymorth Caledi. Nodwyd bod aelodau wedi gofyn am y cynllun yn wreiddiol i gefnogi'r cyhoedd a oedd yn derbyn
budd-daliadau a hefyd etholwyr
sy'n gweithio y mae'r argyfwng costau byw cyfredol
yn effeithio arnynt. Gofynnodd yr aelodau a fyddai modd rhoi
ystyriaeth i gael ymagwedd helaethach o ran y meini prawf i sicrhau
bod mwy o gwmpas mewn perthynas â'r rheini y byddai
angen mwy o gefnogaeth arnynt.
Gofynnodd yr aelodau a fyddai
modd iddynt dderbyn dadansoddiad fesul ward o'r rheini sydd wedi
gofyn am y cyllid.
Gofynnodd yr aelodau hefyd a ellid
darparu taflenni Cymru Gynnes i aelodau i'w rhannu â'u
hetholwyr.
Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.