Craffu Cyn Penderfynu
Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu
cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet aa gyfer yr
Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Cafodd
yr aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniad Cystadleuaeth Porthladdoedd
Rhydd Cymru a gyhoeddwyd gan lywodraethau Cymru a'r DU a’r cais i fwrw ymlaen
â’r gwaith sy’n gysylltiedig â chyflwyno Achos Busnes Amlinellol, sef cam nesaf
y broses polisi Porthladd Rhydd, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Dywedodd
y swyddogion wrth y pwyllgor fod camgymeriad yn argymhelliad (e) fel y nodwyd
yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.Nodwyd bod argymhelliad (e) yn darllen:
·
‘Cymeradwyo’r ymrwymiad o £250,000 o refeniw i baratoi’r Achos Busnes
Amlinellol a’r Achos Busnes Ariannol ac yn nodi y bydd unrhyw geisiadau am
ymrwymiad ariannol ychwanegol yn cael eu dwyn yn ôl i’r Cabinet i’w cymeradwyo
ymhellach;’ – 200,000 ac nid 250,000.
Nodwyd
y dylai £250,000 ddarllen fel £200,000 ac nid £250,000 fel y nodwyd yn yr
adroddiad.
Roedd
David Gwynne o Eurus Consulting yn bresennol i gyflwyno'r adroddiad.
Holodd
yr Aelodau ynghylch y manylion ariannol a nodwyd yn yr adroddiad.Nodwyd bod
risg ariannol o £150,000 i £250,000.Roedd yr aelodau'n bryderus a fyddai hyn yn
cael effaith ar y cronfeydd wrth gefn y gyllideb sydd i ddod pe na bai'r arian
yn cael ei adennill o fewn y flwyddyn ariannol hon.Rhoddodd swyddogion sicrwydd
i'r aelodau y byddai'r cronfeydd wrth gefn yn ddigon cyfforddus i ymdrin â'r
risg hon.
Rhannodd
yr aelodau bryderon mewn perthynas â'r trefniadau llywodraethu gyda'r paneli
ychwanegol.Sicrhaodd y Prif Weithredwr yr aelodau y byddent yn cael cyfle i
graffu a gwahodd cynrychiolwyr o’r Panel Buddsoddi yn ogystal ag ystyried eu
Cylch Gorchwyl.
Holodd
yr aelodau ynghylch ym mha portffolio y bydd y Porthladdoedd Rhydd yn berthyn
iddo yn y dyfodol at ddibenion llywodraethu.Dywedodd swyddogion y byddai
Porthladdoedd Rhydd yn cael eu cynnwys ym mhortffolio Gwasanaethau'r
Amgylchedd, Adfywio a Strydlun ar gyfer craffu yn y dyfodol.
Cafwyd
trafodaethau ynghylch ardrethi busnes ac archwilio cynllun budd cymunedol yn y
dyfodol.Nodwyd nad oedd swyddogion wedi derbyn arweiniad eto ynglŷn â’r
disgwyliadau ar yr hyn sydd ei angen o ran yr achos busnes, ond nodwyd bod
trafodaethau wedi cychwyn ar sefydlu’r achos busnes i sicrhau buddion
economaidd ehangach.Byddai hyn yn arwain at y budd mwyaf o ran swyddi ac
felly'r angen am dai ychwanegol.
Holodd
yr Aelodau o ran addysg mewn colegau i sicrhau bod y sgiliau priodol ar gael
i'r rheini yng nghymuned Castell-nedd Port Talbot i gael y swyddi posib
hyn.Sicrhaodd swyddogion fod sgyrsiau'n cael eu cynnal â'r swyddogion
perthnasol a phartïon allanol a byddai diweddariadau ar uwchsgilio o fewn
colegau yn cael eu darparu i aelodau maes o law.
Yn
dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhellion (gan gynnwys diwygiad technegol
swyddogion i Argymhelliad (e)) i'w cyflwyno i’r Cabinet.