Mater - cyfarfodydd

Craffu Cyn Penderfynu

Cyfarfod: 18/04/2023 - Is-bwyllgor Craffu (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet (Eitem 4)

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu

cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet aa gyfer yr

Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Y Diweddaraf am CCTV yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Ymateb i Argyfwng

 

Diweddarwyd yr aelodau ynghylch CCTV ac ymateb, fel a nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Gofynnodd yr aelodau am ddiweddariad am y cais am CCTV yn ardal Pontardawe. Cadarnhaodd swyddogion fod potensial i ddefnyddio cronfa ffyniant gyffredin y DU i osod CCTV ar gyfer Cyngor Tref Pontardawe.

 

Cafwyd trafodaethau ynghylch cyfathrebu â'r cyhoedd am y newidiadau i CCTV, megis monitro 24/7, ynghyd â chyfarpar newydd wedi'i ddiweddaru. Soniwyd hefyd fod angen ystyried parhau i ymgysylltu â Heddlu De Cymru. Cadarnhaodd swyddogion fod y tîm cyfathrebiadau wedi cael y dasg o hysbysu'r cyhoedd am y newidiadau i fonitro 24/7 drwy ddatganiad i'r wasg, a bod ymgysylltu â Heddlu De Cymru yn parhau.

 

Gofynnodd aelodau i bennu'r meini prawf o ran ble i osod y camerâu gyda'r pwyllgor, er mwyn cael dealltwriaeth o sut caiff y camerâu hyn eu gosod a'u monitro.

 

Trafodwyd y goblygiadau ariannol, a theimlwyd nad oedd manylion ariannol cefnogi CCTV wrth symud ymlaen wedi cael eu cynnwys yn yr effeithiau. Nodwyd y byddai gwybodaeth ar wahân am y sefyllfa ariannol yn cael ei rhannu ag aelodau yn ogystal â thempled yr adroddiad i'w ystyried, er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth briodol yn cael ei chynnwys wrth symud ymlaen.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.