Craffu Cyn Penderfynu
Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu
cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet aa gyfer yr
Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Y
Diweddaraf am CCTV yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Ymateb i Argyfwng
Diweddarwyd
yr aelodau ynghylch CCTV ac ymateb, fel a nodwyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd.
Gofynnodd
yr aelodau am ddiweddariad am y cais am CCTV yn ardal Pontardawe. Cadarnhaodd
swyddogion fod potensial i ddefnyddio cronfa ffyniant gyffredin y DU i osod
CCTV ar gyfer Cyngor Tref Pontardawe.
Cafwyd
trafodaethau ynghylch cyfathrebu â'r cyhoedd am y newidiadau i CCTV, megis
monitro 24/7, ynghyd â chyfarpar newydd wedi'i ddiweddaru. Soniwyd hefyd fod
angen ystyried parhau i ymgysylltu â Heddlu De Cymru. Cadarnhaodd swyddogion
fod y tîm cyfathrebiadau wedi cael y dasg o hysbysu'r cyhoedd am y newidiadau i
fonitro 24/7 drwy ddatganiad i'r wasg, a bod ymgysylltu â Heddlu De Cymru yn
parhau.
Gofynnodd
aelodau i bennu'r meini prawf o ran ble i osod y camerâu gyda'r pwyllgor, er
mwyn cael dealltwriaeth o sut caiff y camerâu hyn eu gosod a'u monitro.
Trafodwyd
y goblygiadau ariannol, a theimlwyd nad oedd manylion ariannol cefnogi CCTV
wrth symud ymlaen wedi cael eu cynnwys yn yr effeithiau. Nodwyd y byddai
gwybodaeth ar wahân am y sefyllfa ariannol yn cael ei rhannu ag aelodau yn
ogystal â thempled yr adroddiad i'w ystyried, er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth
briodol yn cael ei chynnwys wrth symud ymlaen.
Yn
dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.