Mater - cyfarfodydd

Craffu Cyn Penderfynu

Cyfarfod: 05/04/2023 - Pwyllgor Craffu'r Cabinet (Eitem 5)

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu

cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet aa gyfer yr

Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Dangosyddion Perfformiad Chwarter 3

 

Derbyniodd yr aelodau wybodaeth am berfformiad gwasanaeth chwarter 3 ar gyfer y Dangosyddion Perfformiad Allweddol a data canmoliaeth a chwynion, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Cafwyd trafodaethau ynghylch cymhlethdod yr adroddiad.Nodwyd bod angen i'r adroddiad fod yn addas i'r cyhoedd, er mwyn sicrhau bod y cyngor yn annog y cyhoedd i gymryd rhan.Nodwyd hefyd fod angen i'r acronymau yn yr adroddiadau fod yn glir gyda diffiniadau wedi'u manylu neu eu dileu.

 

Nodwyd yr adroddiad.