10 Bwrdd Cynllunio Ardal: gwasanaethau defnyddio sylweddau: Estyniad i gytundebau grant PDF 235 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Penderfyniad:
a)
Bod y defnydd o Adran 7.1.21 o'r Rheolau Gweithdrefnau
Contract yn cael ei nodi, yr oedd cytundeb grant wedi'i eithrio trwy hyn rhag y
gofyniad am dendro cystadleuol.
b) Bod awdurdod dirprwyedig yn
cael ei roi i Bennaeth dros dro Tai a Chymunedau, i ymrwymo i weithredoedd
amrywio gyda:
(i)
Phractis Meddygol Dyffryn Aman Tawe i ehangu'r gwasanaeth
presennol a ddarperir gan Dîm Cyswllt Camddefnyddio Sylweddau Cychwynnol
(PSALT) y Gwasanaethau Gofal Sylfaenol, er mwyn i wasanaethau gael eu darparu yn
2023-24 a bod cynnydd mewn cyllid ar gyfer 2023/2024 sef swm o £10,699 ar gyfer
2023/2024 i'w dalu o gyllideb 2022/2023 y Bwrdd Cynllunio Ardal.
(ii)
Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu mewn perthynas
â'r Gwasanaeth Rhagnodi Mynediad Cyflym yn rhanbarth Bae'r Gorllewin er mwyn i
wasanaethau gael eu darparu yn 2023-24 a bod cynnydd mewn cyllid ar gyfer
2023/2024 sef swm o £158,291 ar gyfer 2023/2024 i'w dalu o gyllideb 2022/2023 y
Bwrdd Cynllunio Ardal.
(c) Bod y
trefniadau ariannu ar y cyd rhwng y cyngor a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a
Throseddu mewn perthynas â'r Gwasanaethau Mynediad Cyflym yn rhanbarth Bae'r
Gorllewin yn cael eu nodi.