Mater - cyfarfodydd

Regional Transport Plan 2025 - 2030

Cyfarfod: 23/02/2023 - Is-bwyllgor Trosolwg A Chraffu Cyd-bwyllgor Corfforedig Rhanbarthol De-Orllewin Cymru (Eitem 7)

7 Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol 2025 - 2030 pdf eicon PDF 333 KB

Cofnodion:

Cafodd yr aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran darparu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer y cyfnod pum mlynedd rhwng 2025 a 2030, fel y manylir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch yr adnoddau y byddai eu hangen i ddatblygu'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Roedd yn glir o'r trafodaethau bod diffyg adnoddau a chyllid. Nodwyd nad oedd ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ddarparu unrhyw adnoddau i helpu i gefnogi'r cynllun hwn. Rhoddodd swyddogion sicrwydd i aelodau y byddant yn parhau i lobïo Llywodraeth Cymru i ddarparu cyllid i'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.

 

Yn dilyn trafodaethau, roedd aelodau'n bryderus am yr ymagwedd a'r diffyg adnoddau i gefnogi'r cynllun hwn. Felly, cytunwyd y byddai gan Gadeirydd y Cyd-bwyllgor Corfforedig - Is-bwyllgor Trosolwg a Chraffu, awdurdod dirprwyedig i ysgrifennu llythyr at Gadeirydd y Cyd-bwyllgor Corfforedig a fyddai'n nodi barn a phryderon y pwyllgor a godwyd o fewn y tri phwnc a drafodwyd yn ystod cyfarfod heddiw.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.