7 Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol 2025 - 2030 PDF 333 KB
Cofnodion:
Cafodd yr aelodau’r wybodaeth
ddiweddaraf am y cynnydd o ran darparu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar
gyfer y cyfnod pum mlynedd rhwng 2025 a 2030, fel y manylir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd.
Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch yr
adnoddau y byddai eu hangen i ddatblygu'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.
Roedd yn glir o'r trafodaethau bod diffyg adnoddau a chyllid. Nodwyd nad oedd
ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ddarparu unrhyw adnoddau i helpu i gefnogi'r
cynllun hwn. Rhoddodd swyddogion sicrwydd i aelodau y byddant yn parhau i lobïo
Llywodraeth Cymru i ddarparu cyllid i'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.
Yn dilyn trafodaethau, roedd aelodau'n
bryderus am yr ymagwedd a'r diffyg adnoddau i gefnogi'r cynllun hwn. Felly,
cytunwyd y byddai gan Gadeirydd y Cyd-bwyllgor Corfforedig - Is-bwyllgor
Trosolwg a Chraffu, awdurdod dirprwyedig i ysgrifennu llythyr at Gadeirydd y
Cyd-bwyllgor Corfforedig a fyddai'n nodi barn a phryderon y pwyllgor a godwyd o
fewn y tri phwnc a drafodwyd yn ystod
cyfarfod heddiw.
Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr
adroddiad.