Mater - cyfarfodydd

South West Wales Economic Delivery Plan

Cyfarfod: 23/02/2023 - Is-bwyllgor Trosolwg A Chraffu Cyd-bwyllgor Corfforedig Rhanbarthol De-Orllewin Cymru (Eitem 6)

6 Cynllun Cyflawni Economaidd De-orllewin Cymru pdf eicon PDF 364 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd y diweddaraf i aelodau am y cynnydd a wnaed o ran cyflwyno Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol De-orllewin Cymru a darparwyd trosolwg o'r mentrau ehangach hynny a gynhelir o fewn y rhanbarth.

 

Trafododd aelodau'r astudiaeth dichonoldeb cerbydau hydrogen a thrydanol a nodwyd o fewn rhaglen y Ddaear a holodd pam comisiynwyd yr astudiaeth dichonoldeb hydrogen. Darparodd swyddogion drosolwg o'r rhesymau y byddai angen cerbydau hydrogen. Nodwyd y byddai adroddiad yn cael ei ailgyflwyno i'r pwyllgor yn y dyfodol a fydd yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y rhaglen hon.

 

Gofynnodd aelodau am y broses o dderbyn cyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Esboniodd swyddogion fod cyllid wedi'i sicrhau yn lleol ac yn rhanbarthol ac nad oedd unrhyw arian cyfatebol.

 

Cynhaliwyd trafodaethau pellach ynghylch cyllid amgen y mae ei angen i gefnogi'r Cyd-bwyllgor Corfforedig wrth ddarparu'r Cynllun Cyflawni Economaidd.

 

Gofynnodd y Pwyllgor Craffu am ddiben y Cyd-bwyllgor Corfforedig o ran cymryd rhan mewn gwneud ceisiadau am gyllid. Yn dilyn trafodaethau, roedd aelodau'n bryderus fod y rhan fwyaf o geisiadau am gyllid yn cael eu prosesu trwy awdurdodau unigol ac nid y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn ei gyfanrwydd.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.