6 Cynllun Cyflawni Economaidd De-orllewin Cymru PDF 364 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddwyd y diweddaraf i aelodau am y
cynnydd a wnaed o ran cyflwyno Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol
De-orllewin Cymru a darparwyd trosolwg o'r mentrau ehangach hynny a gynhelir o
fewn y rhanbarth.
Trafododd aelodau'r astudiaeth
dichonoldeb cerbydau hydrogen a thrydanol a nodwyd o fewn rhaglen y Ddaear a
holodd pam comisiynwyd yr astudiaeth dichonoldeb hydrogen. Darparodd swyddogion
drosolwg o'r rhesymau y byddai angen cerbydau hydrogen. Nodwyd y byddai
adroddiad yn cael ei ailgyflwyno i'r pwyllgor yn y dyfodol a fydd yn cynnwys
rhagor o wybodaeth am y rhaglen hon.
Gofynnodd aelodau am y broses o dderbyn
cyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Esboniodd swyddogion fod cyllid
wedi'i sicrhau yn lleol ac yn rhanbarthol ac nad oedd unrhyw arian cyfatebol.
Cynhaliwyd trafodaethau pellach
ynghylch cyllid amgen y mae ei angen i gefnogi'r Cyd-bwyllgor Corfforedig wrth
ddarparu'r Cynllun Cyflawni Economaidd.
Gofynnodd y Pwyllgor Craffu am ddiben y
Cyd-bwyllgor Corfforedig o ran cymryd rhan mewn gwneud ceisiadau am gyllid. Yn
dilyn trafodaethau, roedd aelodau'n bryderus fod y rhan fwyaf o geisiadau am
gyllid yn cael eu prosesu trwy awdurdodau unigol ac nid y Cyd-bwyllgor
Corfforedig yn ei gyfanrwydd.
Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr
adroddiad.