Mater - cyfarfodydd

Draft Corporate Plan 2023-2028

Cyfarfod: 23/02/2023 - Is-bwyllgor Trosolwg A Chraffu Cyd-bwyllgor Corfforedig Rhanbarthol De-Orllewin Cymru (Eitem 5)

5 Cynllun Corfforaethol Drafft 2023-2028 pdf eicon PDF 333 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd y diweddaraf i aelodau ar lafar a rhoddwyd cyflwyniad PowerPoint iddynt ar y cynnydd gweithredol sy'n berthnasol i ddatblygiad y Cynllun Corfforaethol Drafft. Roedd hwn hefyd yn gyfle i aelodau craffu fwydo i mewn i'r ymarfer ymgynghori 6 wythnos, fel y manylir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rhoddodd y Cadeirydd glod i swyddogion ar y cynnydd a wnaed o ran cyhoeddi'r Cynllun Corfforaethol Drafft ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Deellir mai De-orllewin Cymru fydd y Cyd-bwyllgor Corfforedig cyntaf yng Nghymru i gynhyrchu Cynllun Corfforaethol.

 

Dywedodd aelodau o fewn adroddiadau'r dyfodol dylid cynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol megis polisïau neu strategaethau fel atodiadau ac nid fel dolenni o fewn yr adroddiad.

 

Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch y gyfradd ymateb bosib mewn perthynas â'r broses ymgynghori barhaus. Esboniodd swyddogion dylid ystyried y gyfradd ymateb hyd heddiw yn ddiymhongar yn nhermau rhifiadol, fodd bynnag, roedd manylion yr ymatebion a dderbyniwyd yn ddiddorol ac yn ddefnyddiol.

 

Cyfeiriwyd at y rhaglen gyhoeddusrwydd a'r ymagwedd a ddefnyddiwyd i gynyddu ymwybyddiaeth o'r ymgynghoriad. Teimlodd aelodau fod angen ymagwedd ehangach ar ymgynghoriadau'r dyfodol a rhagor o gyfathrebu ynghylch yr ymgynghoriad i sicrhau cyfradd ymateb uwch.

 

Trafododd aelodau cyfyngiadau'r gyllideb. Nodwyd bod angen i'r Cynllun Corfforaethol fod yn ddyheadol ac yn gyflawnadwy. Mae'r amcanion lles a ddewiswyd yn cyd-fynd â'r pwerau a'r dyletswyddau sydd gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig. Bydd gan aelodau gyfle i adolygu'r cynnydd a wnaed wrth gyflwyno'r amcanion lles yn flynyddol.

 

Nodwyd bod atodiadau'r Cynllun Corfforaethol Drafft yn manylu ar ddyddiadau dyheadol sy'n golygu y gall bod yn anodd fesur y cynnydd. Nodwyd bod angen cynnwys meincnodau er mwyn caniatáu i'r Pwyllgor Craffu gyflawni ei weithredoedd wrth graffu ar y perfformiadau hyn.

 

Nododd aelodau'r adroddiad a chroesawyd y ffaith y byddant yn derbyn Adroddiadau Blynyddol ar y cynnydd a wnaed o ran cyflawni amcanion lles y Cynllun Corfforaethol.

 

Nodwyd y byddai'r ymatebion o gyfarfod heddiw yn cael eu cofnodi a'u cynnwys o fewn yr ymatebion i'r ymgynghoriad. Gyda llythyr gan Gadeirydd y Cyd-bwyllgor Craffu - Is-bwyllgor Trosolwg a Chraffu i Gadeirydd y Cyd-bwyllgor Corfforedig.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.