5 Cynllun Corfforaethol Drafft 2023-2028 PDF 333 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddwyd y diweddaraf i aelodau ar
lafar a rhoddwyd cyflwyniad PowerPoint iddynt ar y cynnydd gweithredol sy'n
berthnasol i ddatblygiad y Cynllun Corfforaethol Drafft. Roedd hwn hefyd yn
gyfle i aelodau craffu fwydo i mewn i'r ymarfer ymgynghori 6 wythnos, fel y
manylir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Rhoddodd y Cadeirydd glod i swyddogion
ar y cynnydd a wnaed o ran cyhoeddi'r Cynllun Corfforaethol Drafft ar gyfer
ymgynghoriad cyhoeddus. Deellir mai De-orllewin Cymru fydd y Cyd-bwyllgor
Corfforedig cyntaf yng Nghymru i gynhyrchu Cynllun Corfforaethol.
Dywedodd aelodau o fewn adroddiadau'r
dyfodol dylid cynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol megis polisïau neu
strategaethau fel atodiadau ac nid fel dolenni o fewn yr adroddiad.
Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch y
gyfradd ymateb bosib mewn perthynas â'r broses ymgynghori barhaus. Esboniodd
swyddogion dylid ystyried y gyfradd ymateb hyd heddiw yn ddiymhongar yn nhermau
rhifiadol, fodd bynnag, roedd manylion yr ymatebion a dderbyniwyd yn ddiddorol
ac yn ddefnyddiol.
Cyfeiriwyd at y rhaglen gyhoeddusrwydd
a'r ymagwedd a ddefnyddiwyd i gynyddu ymwybyddiaeth o'r ymgynghoriad. Teimlodd
aelodau fod angen ymagwedd ehangach ar ymgynghoriadau'r dyfodol a rhagor o
gyfathrebu ynghylch yr ymgynghoriad i sicrhau cyfradd ymateb uwch.
Trafododd aelodau cyfyngiadau'r
gyllideb. Nodwyd bod angen i'r Cynllun Corfforaethol
fod yn ddyheadol ac yn gyflawnadwy. Mae'r amcanion lles a ddewiswyd yn cyd-fynd
â'r pwerau a'r dyletswyddau sydd gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig. Bydd gan
aelodau gyfle i adolygu'r cynnydd a wnaed wrth gyflwyno'r amcanion lles yn
flynyddol.
Nodwyd bod atodiadau'r Cynllun
Corfforaethol Drafft yn manylu ar ddyddiadau dyheadol sy'n golygu y gall bod yn
anodd fesur y cynnydd. Nodwyd bod angen cynnwys meincnodau er mwyn caniatáu i'r
Pwyllgor Craffu gyflawni ei weithredoedd wrth graffu ar y perfformiadau hyn.
Nododd aelodau'r adroddiad a chroesawyd
y ffaith y byddant yn derbyn Adroddiadau Blynyddol ar y cynnydd a wnaed o ran
cyflawni amcanion lles y Cynllun Corfforaethol.
Nodwyd y byddai'r ymatebion o gyfarfod
heddiw yn cael eu cofnodi a'u cynnwys o fewn yr ymatebion i'r ymgynghoriad.
Gyda llythyr gan Gadeirydd y Cyd-bwyllgor Craffu - Is-bwyllgor Trosolwg a
Chraffu i Gadeirydd y Cyd-bwyllgor Corfforedig.
Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr
adroddiad.