Craffu Cyn Penderfynu
Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu
cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet aa gyfer yr
Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Craffodd Bwyllgor Craffu'r
Cabinet ar yr eitemau canlynol ar agenda'r Cabinet:
Hunanasesiad 2021/2022
Derbyniodd Aelodau wybodaeth
am hunanasesiad drafft y cyngor ar gyfer
2021/2022. Mae'n ofynnol i'r cyngor gyhoeddi'r
hunanasesiad o fewn 4 wythnos iddo gael
ei gymeradwyo yn unol â'r
adroddiad a ddosbarthwyd.
Soniodd yr Aelodau am faint
o fanylion oedd yn yr adroddiad
ac awgrymwyd y syniad o gael casgliad ar
y dechrau i gael trosolwg gwell
ar ddechrau adroddiadau. Dywedodd Swyddogion fod gofyniad statudol arnynt i gynnwys
manylion penodol ond dywedasant y byddant yn cyflwyno
fersiwn hawdd ei darllen pan fyddant yn ei
gyhoeddi. Dywedodd Swyddogion hefyd y byddant yn ystyried
sylwadau'r bwrdd ynglŷn â chael crynodeb ar ddechrau
adroddiadau pan fyddant yn llunio asesiad
2022/23.
Yn
dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r
cynigion i'w hystyried gan Fwrdd
y Cabinet.
Sefydlu Fforwm Cyswllt mewn perthynas â Chyrchfan Antur Cwm Afan
Hysbyswyd yr Aelodau am gais Wildfox Resorts Afan Valley Limited, i sefydlu fforwm cysylltu â chynrychiolwyr o Wildfox Resorts Afan Valley
Limited mewn perthynas â datblygu Cyrchfan Antur Cwm Afan. Prif ddiben y fforwm
cyswllt yw sicrhau y gwneir yn fawr o fanteision
cymdeithasol, amgylcheddol,
ac economaidd Cyrchfan Antur Cwm Afan ar gyfer y cymunedau
lleol, yn unol â'r adroddiad.
Mynegodd Aelodau bryderon yn ymwneud ag eitemau
8 a 9 o becyn agenda'r
Cabinet. Nodwyd bod yr effaith ar gymuned
y cwm ac effaith ar y gweithlu ar gyfer
y ddau adroddiad yn manylu nad
oedd unrhyw oblygiadau. Teimlai'r Aelodau y byddai effeithiau sylweddol ar y gweithlu o ran yr adroddiadau oherwydd y gefnogaeth weinyddol y byddai ei hangen gan
adrannau perthnasol.
Roedd Aelodau hefyd yn teimlo y gallai
fod effaith ar wardiau eraill
a byddai ystyried cynnwys Aelodau o Gwm Afan isaf
ar y pwyllgor cyswllt yn fuddiol.
Esboniodd Swyddogion y byddai'n agored i Aelodau a oedd
wedi'u penodi i'r fforymau priodol
nodi a oes unrhyw broblemau a allai gael effeithiau
ar wardiau cyfagos a gellir ailystyried y cylch gorchwyl bob amser yn y fforymau hynny.
Holodd yr Aelodau hefyd ynghylch y posibilrwydd o ddosbarthu cofnodion y fforwm cyswllt i'r Cadeiryddion
Craffu. Dywedodd Swyddogion, gan fod y pwyllgorau cyswllt yn gyrff
allanol, na fyddai'r cofnodion yn cael eu
dosbarthu i holl gynrychiolwyr y cyngor. Awgrymodd Swyddogion ymhellach, fel rhan o'r
blaenraglen waith craffu, fod y cyngor
yn dod o hyd i ffyrdd
o wneud yn siŵr bod cadeiryddion yn cael eu
diweddaru'n rheolaidd ac i geisio dod
o hyd i ffyrdd
o roi eitemau sefydlog ar agendâu
ac ystyried y materion hynny.
Ystyriodd Swyddogion y pwyntiau a godwyd a dywedasant wrth edrych ar yr effeithiau ar y cwm a'r gweithlu, mai’r rheswm nad oedd unrhyw effeithiau wedi'u cofnodi ar yr adroddiad oedd oherwydd pwrpas yr adroddiad oedd manylu ar y broses sefydlu yn gyffredinol, ac roedd yn ymwneud yn benodol â'r fframwaith llywodraethu sydd wedi'i roi ar waith ynghyd â'r ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4