Craffu Cyn Penderfynu
Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu
cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet aa gyfer yr
Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Arian Grant y Trydydd Sector -
Ceisiadau Ychwanegol am gyllid
Cafodd yr Aelodau’r wybodaeth
ddiweddaraf am y ceisiadau ychwanegol ar gyfer grant y trydydd sector a
dderbyniwyd ar ôl y dyddiad cau swyddogol, fel y nodir yn yr adroddiad preifat.
Rhannodd yr Aelodau eu pryderon
ynghylch hwyrni'r ceisiadau ychwanegol. Nodwyd bod meini prawf a dyddiad cau ar
gyfer ceisiadau wedi'u gosod ac yn y dyfodol roeddent am bwysleisio i'r
sefydliadau hynny bwysigrwydd gwneud cais o fewn y dyddiad cau.
Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr
argymhellion a chânt eu cyflwyno i Fwrdd y Cabinet.
Cais i’r Gronfa Grantiau Amrywiol
Ceisio cymeradwyaeth Aelodau mewn
perthynas â chais am grant a dderbyniwyd, fel y nodir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd.
Nodwyd bod y cais wedi'i adrodd i
Is-bwyllgor (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet ar 24 Ionawr 2023, fodd bynnag,
adroddwyd am y ward a'r fangre anghywir. Adroddwyd yn gywir am hyn bellach fel
ward Pontardawe a'r fangre y cyfeirir ati yw Canolfan Gymunedol y Groes, Stryd
Fawr, Pontardawe.
Rhannodd yr Aelodau bryderon mewn
perthynas ag adrodd am y fangre anghywir, fodd bynnag, roeddent yn deall ei fod
yn gamgymeriad a sicrhaodd Swyddogion yr Aelodau y byddai proses yn cael ei
rhoi ar waith i sicrhau bod adroddiadau'n cael eu hadrodd yn gywir.
Nodwyd bod 209 o gyfrifon wedi derbyn
ardrethi gorfodol a dewisol. Gofynnod yr Aelodau am restr o'r 209 o gyfrifon.
Cadarnhaodd Swyddogion y byddai rhestr yn cael ei rhannu ag Aelodau, fodd
bynnag, roeddent am roi sicrwydd bod pob cais yn mynd trwy broses feini prawf
rymus.
Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr
argymhellion a chânt eu cyflwyno i Fwrdd y Cabinet.
Diweddariad Strategaeth
Seiberddiogelwch Castell-nedd Port Talbot 2023
Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r
Aelodau am
Strategaeth Seiberddiogelwch Cyngor
Castell-nedd Port Talbot, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Rhoddodd Swyddogion gyflwyniad
PowerPoint.
Cafwyd trafodaethau ynghylch yr
hyfforddiant gorfodol y mae'n ofynnol i bob aelod o staff ei gyflawni i sicrhau
bod gan yr holl staff wybodaeth am GDPR a hyfforddiant diogelwch i helpu i atal
unrhyw broblemau seiberddiogelwch. Nodwyd bod rheolwyr yn cael gwybod am y
rheini sydd wedi cwblhau unrhyw hyfforddiant perthnasol a'u bod yn cael gwybod
am y rheini nad ydynt wedi'i gwblhau.
Holodd yr Aelodau ynghylch y
cyfyngiadau o ran lawrlwytho apiau ar eu iPads. Eglurodd Swyddogion fod cyfyngiadau
ar waith i helpu gyda diogelwch ac i atal unrhyw lawrlwythiadau twyllodrus
posib. Nodwyd os oedd angen unrhyw apiau sy'n ymwneud â gwaith ar Aelodau,
byddai angen iddynt siarad â'r adrannau Gwasanaethau Democrataidd a TG.
Gofynnodd yr Aelodau am i'r cynllun
gweithredu gynnwys dyddiadau cau er mwyn caniatáu i'r pwyllgor craffu ymgymryd
â'i rôl o graffu ar y cynllun yn y dyfodol.
Nodwyd nad oedd y cynllun gweithredu a
gyhoeddwyd yn cynnwys y cynllun gweithredu llawn oherwydd y cynnwys sensitif.
Fodd bynnag, nodwyd y byddai dyddiad cau yn cael ei gynnwys ar gyfer pob cam
gweithredu a restrwyd.
Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr
adroddiad.