4 Cyllideb ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2023/24 PDF 727 KB
Cofnodion:
Darparodd
y Prif Weithredwr drosolwg byr o'r gyllideb, gan ddarparu manylion am ffocws
presennol y gyllideb yn ogystal â'r ffocws yn y dyfodol dros y 12 mis nesaf.
Darparodd Swyddog Adran 151 fanylion am gefndir gosod y gyllideb.
Nododd
aelodau'r gwall canlynol o fewn yr agenda/adroddiad:
·
Ar dudalen 2 o becyn yr agenda, dylai'r dyddiad
darllen '20 Ionawr 2023' ac nid '20 Mawrth 2023' fel a nodwyd.
·
Ar dudalen 8 yr adroddiad, paragraff 2.4,
nodwyd y dylai'r ffigwr ddarllen 140,000 ac nid 140,0000.
Cynhaliwyd
trafodaethau ynghylch cyllid y DU a Llywodraeth Cymru a oedd ar gael. Gofynnwyd
am eglurhad ynghylch lleoliad yr arian hwn ac a oedd yn cael ei gynnwys o fewn
Cyllideb y Cyd-bwyllgor Corfforedig. Cadarnhawyd nad oedd o fewn Cyllideb y
Cyd-bwyllgor Corfforedig ac roedd yn rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac
roedd yn eistedd o fewn awdurdodau unigol. Tynnwyd sylw'r pwyllgor at y ffaith
mai pwrpas yr wybodaeth am Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw rhoi gwybod i
aelodau bod arian ar gael i helpu i gefnogi prosiectau penodol.
Darparwyd
esboniadau ynghylch cymhlethdodau technegol sydd wedi codi gan fod y
Cyd-bwyllgor Corfforedig yn endid ar ei ben ei hunain ac mae angen pwerau Adran
33 arno. Nodwyd bod goblygiadau TAW yn ogystal â phroblemau technegol eraill o
fewn Adran 150. Nodwyd bod swyddogion yn hapus i ddarparu adroddiad ar hyn yn y
dyfodol gan ddarparu rhagor o fanylion.
Holodd
aelodau am y gyllideb £617,753 a gofynnodd beth fyddai diben a chanlyniadau'r
arian hwn gan fod y prif fanylion am y gwariant yn benodol ynghylch
dyletswyddau gweinyddiaeth. Esboniodd swyddogion fod y flwyddyn gyntaf yn
benodol ar gyfer sefydlu endid y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn unol â'r gofynion
cyfreithiol, sy'n costio. Nodwyd bod Llywodraeth Cymru'n awyddus i weithio ar y
cyd, yn benodol yn y meysydd canlynol - Trafnidiaeth, Cynllunio, Datblygiad
Economaidd ac Ynni. Nodwyd bod llawer o weinyddiaeth yn rhan o hyn, fodd
bynnag, nid yw'r holl waith o fewn y gyllideb yn weinyddol.
Roedd
aelodau'n ymwybodol bod y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn endid ar ei ben ei
hunain, byddai o fewn cylch gwaith Swyddfa Archwilio Cymru fel corff ar wahân i
sicrhau bod llywodraethu a gwerth am arian y gyllideb yn cael eu penderfynu'n
briodol. Felly, gofynnodd aelodau am eglurder ynghylch y Swyddfa Rheoli
Rhanbarthol oherwydd nodwyd ffigurau'r gyllideb fel amcangyfrif o gostau ac
roedd angen sicrwydd nad oedd unrhyw botensial i'r costau hyn gynyddu.
Darparodd swyddogion sicrwydd i aelodau ac esboniwyd bod y Cyd-bwyllgor
Corfforedig yn ifanc iawn ac roedd gwaith y Grŵp Rheoli Rhanbarthol yn
cael eu penderfynu o hyd. Rhoddwyd sicrwydd i aelodau byddai'r costau ar gyfer
y Swyddfa Rheoli Rhanbarthol yn cael eu rheoli a'u cadw o fewn y costau.
Nodwyd
y byddai Craffu yn derbyn adroddiadau monitro'r Gyllideb yn rheolaidd er mwyn
sicrhau eu bod yn gallu gweld unrhyw gostau yn ystod y flwyddyn galendr nesaf.
Rhoddodd swyddogion sicrwydd i aelodau ynghylch taliadau'r Prif Weithredwr a nodwyd o fewn y gyllideb. Nodwyd bod y taliadau hyn ar gyfer yr adran ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4