Trefniadau arweinyddiaeth - Celtic Leisure - Adroddiad preifat
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith
Integredig,
1.
bod awdurdod dirprwyedig yn
cael ei roi i'r Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes, mewn
ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd, ar yr amodau a
thelerau y cytunwyd arnynt ar gyfer cytundeb secondiad rhwng y cyngor a Hamdden
Celtic.
2.
Bod Aelodau'n cymeradwyo'r
cymorth gyda chefnogaeth arweinyddiaeth nes y trosglwyddir gwasanaethau i'r
cyngor, erbyn 1 Ebrill 2024 fan bellaf.
3.
Bod Aelodau'n cymeradwyo'r
cais gan Hamdden Celtic i gael gwared ar swydd eu Prif Weithredwr o 31 Mawrth
2023.
4.
Bod costau'r swydd y cytunir
eu bod yn cael eu colli yn cael eu talu’n unol ag amodau'r indemniad a roddwyd
gan y cyngor i Hamdden Celtic ar 21 Hydref 2020.
Rheswm dros y Penderfyniad:
Bydd arweinyddiaeth addas ar waith i sicrhau
trosglwyddiad llyfn o wasanaethau dan do Hamdden Celtic i'r cyngor erbyn 31
Mawrth 2024.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Mewn cytundeb â Chadeirydd y Pwyllgor Craffu
Addysg, Sgiliau a Lles, rhoddir y penderfyniad ar waith yn syth.
Ymgynghoriad:
Nid yw'n ofynnol cynnal ymgynghoriad allanol.