Mater - cyfarfodydd

Christmas Parking 2022

Cyfarfod: 02/12/2022 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun (Eitem 10)

10 Parcio ar gyfer Nadolig 2022 pdf eicon PDF 307 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Sgrinio Integredig:

 

Bydd hawl i barcio am ddim ym meysydd parcio talu ac arddangos Castell-nedd, Port Talbot a Phontardawe rhwng dydd Sadwrn 10 Rhagfyr 2022 a dydd Sul 1 Ionawr 2023 (ac eithrio meysydd parcio'r Gnoll, Parc Gwledig Coedwig Afan a Glan Môr Aberafan).

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Er mwyn cefnogi economi canol y dref, cydnabyddir y byddai darparu parcio am ddim i geir dros y Nadolig yn cefnogi ei hadferiad ymhellach.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Rhagfyr 2022.