Craffu Cyn Penderfynu
Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu
cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet aa gyfer yr
Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Cyflwyno
Cais Porthladd Rhydd
Croesawodd
y Cadeirydd Andrew Harston, Alice Jones a Mike Stacy o Gymdeithas Porthladdoedd
Prydain yn ogystal â David Gwynne o Eurus Consulting i'r cyfarfod.
Cyflwynodd
swyddogion yr adroddiad a darparwyd gwybodaeth mewn perthynas â chais i
lywodraethau Cymru a'r DU am Borthladd Rhydd a oedd yn cynnwys porth Port
Talbot a phorth Aberdaugleddau a'r ardaloedd cyfagos.
Nododd
aelodau'r camgymeriad yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, mewn perthynas â thudalen
10 a oedd yn dweud "Mae hyn yn cynnwys £21 miliwn (neu fwy o bosib)".
Dylai darllen £25 miliwn.
Gofynnodd
yr aelodau am eglurder ynghylch y goblygiadau ariannol sy'n tynnu sylw at y
ffaith y byddai £1m o gyllid gan y Llywodraeth ar gael ar gyfer datblygiadau.
Cadarnhaodd y swyddogion y byddai hwn yn swm untro i gefnogi'r cynigiwr i
gefnogi'r cais o'r cam amlinellu i'r cam achos busnes terfynol yn unol â
rheolau Llyfr Gwyrdd y Trysorlys. Byddai angen datblygu model busnes mewn
perthynas ag unrhyw gostau parhaus.
Tynnodd
aelodau sylw at y datganiad o argyfwng hinsawdd diweddar a gofynnwyd beth
fyddai'r goblygiadau wrth adeiladu'r datblygiad hwn. Dywedodd swyddogion gydag
unrhyw waith adeiladu byddai cynnydd mewn allyriadau o ganlyniad i draffig
Cerbydau Masnachol Trwm, fodd bynnag, bydd y datblygiad er budd bioamrywiaeth a
throsglwyddo i ynni adnewyddadwy a fyddai'n lleihau'r ôl troed carbon.
Cynhaliwyd
trafodaethau ynghylch y costau a'r adnoddau posib. Tynnwyd sylw at y pwysau y
mae swyddogion wedi'i brofi yn ystod y blynyddoedd diwethaf gyda'r pandemig a
phrosiectau mawr eraill y mae'r cyngor wedi cofrestru ar eu cyfer. Roedd
aelodau'n bryderus am y pwysau hwn. Cytunodd y Prif Weithredwr fod swyddogion
wedi bod dan bwysau o ganlyniad i'r pandemig a phrosiectau eraill a rhoddwyd
sicrwydd i'r aelodau y byddai adnoddau'n cael eu hystyried yn barhaus wrth
symud ymlaen.