Mater - cyfarfodydd

South West Wales Corporate Joint Committee - Forward Work Programme of the Chief Executive

Cyfarfod: 08/11/2022 - Is-bwyllgor Trosolwg A Chraffu Cyd-bwyllgor Corfforedig Rhanbarthol De-Orllewin Cymru (Eitem 7)

7 Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru - Blaenraglen Waith y Prif Weithredwr. pdf eicon PDF 420 KB

Cofnodion:

Croesawodd yr aelodau Brif Weithredwr y Cyd-bwyllgor Corfforedig

 

Diweddarwyd yr aelodau am flaenraglen waith bresennol y Cyd-bwyllgor Corfforedig a rôl Prif Weithredwr y Cyd-bwyllgor Corfforedig ynghyd â'r trefniadau a fydd ar waith ar gyfer rhyddhau gwasanaethau, fel a nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Cafwyd trafodaethau ynghylch fformat y gyllideb a'i phrosesu. Rhoddodd y Prif Swyddog Cyllid drosolwg o'r gyllideb. Nodwyd bod dolen i gyfarfod blaenorol y Cyd-bwyllgor Corfforedig lle cymeradwywyd y gyllideb ar gyfer 2022/23. Gofynnodd yr aelodau i gyllideb 2023/24 gael ei chynnwys yn y flaenraglen waith ym mis Ionawr.

 

 

Nododd yr aelodau fod y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn datblygu Cynllun Trafnidiaeth erbyn mis Rhagfyr 2022 ac y byddai ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal ym mis Mehefin 2022. Holodd yr aelodau a oedd y dyddiadau hyn yn gywir. Eglurodd swyddogion fod y dyddiadau'n gywir pan ddrafftiwyd yr adroddiad gwreiddiol, fodd bynnag roeddent yn aros am arweiniad pellach gan Lywodraeth Cymru a oedd wedi achosi oedi o ran y dyddiadau.  Cadarnhaodd swyddogion, yn dilyn arweiniad pellach byddai diweddariad yn cael ei roi i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.

 

Cafwyd trafodaethau ynghylch pynciau yr oedd yr aelodau am eu cynnwys yn y flaenraglen waith Trosolwg a Chraffu. Cytunwyd y byddai sesiwn flaenraglen waith yn cael ei threfnu i ganiatáu i'r pwyllgor ychwanegu ymhellach at eu blaenraglen waith. 

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.