7 Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru - Blaenraglen Waith y Prif Weithredwr. PDF 420 KB
Cofnodion:
Croesawodd yr aelodau Brif
Weithredwr y Cyd-bwyllgor Corfforedig
Diweddarwyd yr aelodau am
flaenraglen waith bresennol y Cyd-bwyllgor Corfforedig a rôl Prif Weithredwr y
Cyd-bwyllgor Corfforedig ynghyd â'r trefniadau a fydd ar waith ar gyfer
rhyddhau gwasanaethau, fel a nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Cafwyd trafodaethau ynghylch
fformat y gyllideb a'i phrosesu. Rhoddodd y Prif Swyddog Cyllid drosolwg o'r
gyllideb. Nodwyd bod dolen i gyfarfod blaenorol y Cyd-bwyllgor Corfforedig lle
cymeradwywyd y gyllideb ar gyfer 2022/23. Gofynnodd yr aelodau i gyllideb
2023/24 gael ei chynnwys yn y flaenraglen waith ym mis Ionawr.
Nododd yr aelodau fod y
Cyd-bwyllgor Corfforedig yn datblygu Cynllun Trafnidiaeth erbyn mis Rhagfyr
2022 ac y byddai ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal ym mis Mehefin 2022.
Holodd yr aelodau a oedd y dyddiadau hyn yn gywir. Eglurodd swyddogion fod y
dyddiadau'n gywir pan ddrafftiwyd yr adroddiad gwreiddiol, fodd bynnag roeddent
yn aros am arweiniad pellach gan Lywodraeth Cymru a oedd wedi achosi oedi o ran
y dyddiadau. Cadarnhaodd swyddogion, yn
dilyn arweiniad pellach byddai diweddariad yn cael ei roi i'r Pwyllgor Trosolwg
a Chraffu.
Cafwyd trafodaethau ynghylch
pynciau yr oedd yr aelodau am eu cynnwys yn y flaenraglen waith Trosolwg a
Chraffu. Cytunwyd y byddai sesiwn flaenraglen waith yn cael ei threfnu i
ganiatáu i'r pwyllgor ychwanegu ymhellach at eu blaenraglen waith.
Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys
yr adroddiad.