Mater - cyfarfodydd

Constitution of the South West Wales Corporate Joint Committee

Cyfarfod: 08/11/2022 - Is-bwyllgor Trosolwg A Chraffu Cyd-bwyllgor Corfforedig Rhanbarthol De-Orllewin Cymru (Eitem 5)

5 Cyd-bwyllgor Corfforedig Rhanbarthol De-orllewin Cymru pdf eicon PDF 261 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd trosolwg o'r cyfrifoldebau o fewn strwythur Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru a'r broses benderfynu i'r Aelodau, fel a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Gofynnod aelodau am gyfranogiad y Parciau Cenedlaethol ar y prif Gyd-bwyllgor Corfforedig, fodd bynnag nid oeddent yn rhan o'r Pwyllgor Craffu. Hysbysodd swyddogion yr aelodau fod hyn yn cael ei drafod o hyd ac y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig i drafod sut y bydd y parciau cenedlaethol yn ymwneud â phob statws gwahanol wrth symud ymlaen.  Nododd yr aelodau y byddai swyddogion yn rhoi diweddariad i'r pwyllgor trosolwg a chraffu, yn amodol ar adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn y dyfodol.

 

Yn dilyn gwaith craffu, nododd yr aelodau'r adroddiad.