5 Cyd-bwyllgor Corfforedig Rhanbarthol De-orllewin Cymru PDF 261 KB
Cofnodion:
Rhoddwyd
trosolwg o'r cyfrifoldebau o fewn strwythur Cyd-bwyllgor Corfforedig
De-orllewin Cymru a'r broses benderfynu i'r Aelodau, fel a fanylwyd yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd.
Gofynnod aelodau am gyfranogiad
y Parciau Cenedlaethol ar y prif Gyd-bwyllgor Corfforedig, fodd bynnag nid
oeddent yn rhan o'r Pwyllgor Craffu. Hysbysodd swyddogion yr aelodau fod hyn yn
cael ei drafod o hyd ac y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cyd-bwyllgor
Corfforedig i drafod sut y bydd y parciau cenedlaethol yn ymwneud â phob statws
gwahanol wrth symud ymlaen. Nododd yr
aelodau y byddai swyddogion yn rhoi diweddariad i'r pwyllgor trosolwg a
chraffu, yn amodol ar adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cyd-bwyllgor
Corfforedig yn y dyfodol.
Yn
dilyn gwaith craffu, nododd yr aelodau'r adroddiad.