Cofnodion:
Rhoddwyd
trosolwg i aelodau mewn perthynas â chylch gorchwyl Cyd-bwyllgor Corfforedig
De-orllewin Cymru a'r Pwyllgor Craffu, fel a fanylwyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd.
Gofynnwyd
am eglurder ynghylch y cyrff allanol a fyddai
ar gael ar gyfer craffu, fel a amlygwyd yn y cylch gorchwyl. Cadarnhaodd
swyddogion y byddai'n gyfyngedig, fodd bynnag byddai unrhyw gyrff allanol a
fyddai'n rhan o broses y Cyd-bwyllgor Craffu Corfforedig yn agored i graffu.
Yn
dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.