Mater - cyfarfodydd

Uplift to older people care home fees

Cyfarfod: 10/11/2022 - Bwrdd Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol y Cabinet (Eitem 10)

10 Cynnydd i ffïoedd Cartrefi Gofal Pobl Hyn pdf eicon PDF 423 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:

 

·        Bod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai yn cael awdurdod dirprwyedig i:

 

·        Weithredu cynnydd o £30 y pen, yr wythnos i bris y contract cyfredol ar gyfer prynu gwasanaethau Cartrefi Gofal Pobl Hŷn yn ardal Castell-nedd Port Talbot ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/2023;

·        Bod y codiad yn cael ei ôl-ddyddio i ddechrau o 1Ebrill 2022.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

Er mwyn sicrhau bod ffïoedd sy'n cael eu talu i Gartrefi Gofal Pobl Hŷn yn talu costau cynyddol darparu eu gwasanaethau, gan sicrhau sefydlogrwydd y farchnad a chydymffurfiaeth â Safon 10 Fframwaith Comisiynu: Canllawiau ac Arfer Da Llywodraeth Cymru.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Bydd y gwaith o roi'r penderfyniad ar waith yn cychwyn ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, sy'n dod i ben ddydd Llun 14 Tachwedd 2022.

 

Ymgynghoriad:

Nid yw'n ofynnol cynnal ymgynghoriad allanol