Mater - cyfarfodydd

National Underground Assets Register

Cyfarfod: 28/10/2022 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun (Eitem 6)

6 Y Gofrestr Asedau Tanddaearol Genedlaethol pdf eicon PDF 624 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith bod gwall wedi'i gynnwys yn yr adroddiad a gylchredwyd, a chyfeiriwyd ato yn y drafodaeth a gynhaliwyd yng nghyfarfod Pwyllgor Craffu Gwasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a Strydlun, a gynhaliwyd cyn cyfarfod Bwrdd y Cabinet.

 

Penderfyniadau:

 

Yn dilyn cynnig Pwyllgor Craffu Gwasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a Strydlun, a gynhaliwyd cyn y cyfarfod hwn, roedd yr Aelodau'n gefnogol o ychwanegu rhif 4 at yr argymhelliad, fel y nodir isod:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig:

 

1.   Bod y Cyngor yn cymryd rhan ym mhrosiect Y Gofrestr Asedau Tanddaearol Genedlaethol (CATG) ac yn llofnodi'r Cytundeb Dosbarthu Data mewn perthynas ag Opsiwn 2 yn yr adroddiad a gylchredwyd;

2.   Bod Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio, mewn ymgynghoriad â Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, yn cael ei awdurdodi i lofnodi'r Cytundeb Dosbarthu Data ar ran y cyngor;

3.   Petai pwysau refeniw yn deillio o gymryd rhan yn y prosiect mewn perthynas ag Opsiwn 2, byddai angen nodi cyllid o fewn y gyllideb bresennol ar gyfer yr Amgylchedd ac Adfywio petai parhad yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth;

4.   Bod adolygiad ar gostau a manteision opsiwn 2, a gynhwysir yn yr adroddiad a gylchredwyd, yn cael ei ddwyn yn ôl i Bwyllgor Craffu Gwasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a Strydlun ym mis Ebrill 2024 sy'n manylu ar barhad posib y cynllun.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

Penderfynu ar yr ymateb i gais i ymuno â

Chofrestr Asedau Tanddaearol Genedlaethol Llywodraeth y DU.

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 1 Tachwedd 2022.