Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad sgrinio
effaith integredig, rhoddir cymeradwyaeth i hysbysebu'r Gorchymyn Rheoleiddio
Traffig sy'n gysylltiedig â'r amodau cynllunio ar gyfer Datblygiad Tai newydd,
Clos Gelli Wen, yr Allt-wen (fel y manylir yn Atodiad A i'r adroddiad a
gylchredwyd) ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, rhoddir y cynigion ar
waith ar y safle fel y'u hysbysebwyd.
Rheswm dros y Penderfyniad:
Bydd y gorchymyn rheoleiddio traffig arfaethedig yn
atal parcio diwahaniaeth ac yn rheoleiddio symudiadau traffig er diogelwch ar y
ffyrdd.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl
y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9am ddydd Sul, 9 Hydref
2022.