Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith
integredig, rhoddir cymeradwyaeth i hysbysebu'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig
sy'n gysylltiedig â'r amodau cynllunio ar gyfer y Datblygiad Tai newydd, Clos
Castan, Castell-nedd (fel y manylir yn Atodiad A i'r adroddiad a gylchredwyd)
ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau rhoddir y cynnig ar waith ar y safle
fel y'i hysbysebwyd.
Rheswm dros y Penderfyniad:
Bydd y gorchymyn rheoleiddio traffig arfaethedig yn
atal parcio diwahaniaeth er diogelwch ar y ffyrdd.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl
y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9am ddydd Sul, 9 Hydref
2022.