Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith
integredig, rhoddir cymeradwyaeth i hysbysebu'r bwriad i ddileu'r gorchymyn
rheoleiddio traffig Dim Mynediad ym mhen deheuol y lôn y tu ôl i 1-17 Stryd y
Goron, Port Talbot (fel y manylir yn Atodiad A i'r adroddiad a gylchredwyd) ac
os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, rhoddir y cynigion ar waith ar y safle
fel y'u hysbysebwyd.
Rheswm dros y Penderfyniad:
Bydd y bwriad i ddileu'r gorchymyn rheoleiddio
traffig Dim Mynediad yn galluogi'r timau casglu gwastraff i fynd i mewn i'r lôn
o'r de, gan wneud eu rownd gasglu'n haws, yn fwy effeithlon a lleihau'r risg o
ddifrod trydydd parti
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl
y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9am ddydd Sul, 9 Hydref 2022.