Craffu Cyn Penderfynu
·
Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu
cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr
Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Craffodd y Pwyllgor ar yr
eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:
Cynllun Corfforaethol
2022-2027 - Adfer, Ailosod, Adnewyddu
Derbyniodd yr aelodau
adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i ymgynghori ar Gynllun
Corfforaethol diweddaredig ar gyfer y cyfnod 2022-2027.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod
yr adroddiad yn cyfleu ymateb y cyngor i'r pandemig, ac yn nodi'r effeithiau ar
gymunedau a'r economi leol; roedd yr effeithiau wedi newid cyd-destun y ffordd
yr oedd angen i'r cyngor gynllunio wrth symud ymlaen. Nodwyd bod gan y cyngor
ddyletswydd statudol i lunio'r cynlluniau hyn a bu'n rhaid iddo ystyried, fel
rhan o'r gwaith hwn, a oedd yr amcanion lles blaenorol yn parhau'n briodol neu
a oedd angen eu newid; daethpwyd i'r casgliad bod angen diwygio'r amcanion lles
yng ngoleuni’r newid cyd-destun. Roedd rhan arall o'r gwaith hwn a amlygwyd yn
cynnwys edrych ymlaen at nodi ffactorau amrywiol a fyddai'n cael effaith yn y
dyfodol megis newid yn yr hinsawdd, setliadau ariannol a rhaglen Lywodraethu
Llywodraeth Cymru ei hun.
Nodwyd bod yr adroddiad a
ddosbarthwyd hefyd yn crynhoi'r camau adfer cychwynnol yr oedd y cyngor wedi'u
cymryd; roedd camau yn erbyn adferiad wedi mynd rhagddynt pan allent, gan
ddibynnu ar sefyllfa'r pandemig. Un o’r darnau gwaith y dywedodd swyddogion eu
bod wedi cwblhau oedd nodi'r blaenoriaethau ar gyfer y cam nesaf, a oedd wedi'u
rhannu'n bedwar amcan lles newydd:
1.
Y dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn a pherson ifanc;
2.
Adeiladu cymunedau ffyniannus a chynaliadwy drwy
ddefnyddio'r cryfderau a welwyd mewn cymunedau yn ystod y pandemig;
3.
Rhoi blaenoriaeth uwch i'r gwaith a wneir sy’n ymwneud
â’r amgylchedd, diwylliant a threftadaeth leol;
4.
Adnewyddu a dwysáu gwaith er mwyn creu swyddi gwyrdd o
ansawdd da yn yr ardal, a helpu pobl leol i ennill y sgiliau a'r hyder i
ymgymryd â'r gyflogaeth honno.
Dywedodd swyddogion y bydd
angen i raglen newid sefydliadol sylweddol o fewn y cyngor fod yn sail i’r holl
waith hwn, wrth ddatblygu'r Cynllun Corfforaethol, roedd swyddogion wedi
cysylltu ag aelodau ynghylch y mathau o newidiadau i'r diwylliant a'r ffyrdd o
weithio y bydd angen eu cyflwyno. Soniwyd bod bod yn un fel cyngor wrth wraidd
y newid hwn, yn ystod y pandemig, roedd llawer o adrannau ar draws cyngor wedi
dod at ei gilydd fel tîm, ac roedd seilos rhwng adrannau wedi'u dadansoddi.
Ychwanegodd y Prif Weithredwr y byddai hyn yn rhan bwysig iawn o'r ffordd y
mae'r cyngor yn symud yn ei flaen.
Nodwyd mai un elfen nad oedd wedi'i chwblhau eto oedd cyfrifo'r mesurau mewn perthynas â'r amcanion lles newydd; roedd rhywfaint o waith i'w gwblhau dros yr wythnosau nesaf i sicrhau y gallai'r cyngor ddangos y gwahaniaeth y bydd y rhain yn ei wneud. Tynnwyd sylw at y ffaith y bydd gan swyddogion ddiddordeb mewn unrhyw farn a allai fod gan y cyhoedd am y ffyrdd y gallai'r cyngor fesur llwyddiant fel rhan o'r ymgynghoriad. Hysbyswyd y pwyllgor y bydd cyfle i'r weinyddiaeth newydd gynnal adolygiad pellach o flaenoriaethau a pholisïau'r cynghorau ar ôl yr ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3