1 Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff PDF 3 MB
Cofnodion:
Derbyniodd yr aelodau gyflwyniad PowerPoint yn
ymwneud â'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff,
fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Cyflwynwyd clip rhithwir yn y cyfarfod a oedd yn
dangos y gwaith yr oedd y tîm wedi’i gyflawni i gadw’r rheini’n heini yn ystod
COVID-19.
Gofynnodd yr Aelodau a oedd unrhyw gyfraddau
consesiynol. Eglurodd swyddogion bod y gyfradd wedi'i gosod ar £2 oherwydd
canllawiau cenedlaethol. Eglurodd swyddogion eu bod yn gwneud eu gorau glas i
sicrhau bod y pris yn aros ar gyfradd deg.
Cafwyd trafodaethau ynghylch lleoliad y
dosbarthiadau. Eglurodd swyddogion eu bod yn ceisio’u cadw yn y prif ardaloedd
canolog yng Nghastell-nedd Port Talbot er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu cael
mynediad i ddosbarth.
Canmolodd yr aelodau waith y tîm a diolchwyd i'r
swyddogion am eu holl waith.
Yn dilyn gwaith craffu, nododd yr Aelodau'r cyflwyniad