Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddwyd data rheoli perfformiad chwarter 2 i'r
aelodau, am y cyfnod o 1 Ebrill 2021 i 30 Medi 2021 ar gyfer y Gyfarwyddiaeth
Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes mewn perthynas â Hamdden a Diwylliant, fel y
nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Amlygodd yr aelodau eu dealltwriaeth o'r pwysau yr
oedd swyddogion wedi'i ysgwyddo yn ystod y cyfnod digynsail hwn a chanmolasant
eu hymdrechion i gadw'r gwasanaeth i fynd dan amgylchiadau mor anodd gyda
chyfyngiadau COVID-19. Adlewyrchwyd y rhain yn y dangosyddion perfformiad.
Gofynnwyd a fyddai modd cymhwyso cyfradd
gonsesiynol i gynyrchiadau Luminate i sicrhau nad yw teuluoedd yn colli’r cyfle
i fynd i’r digwyddiad oherwydd y gost. Sicrhaodd y swyddogion yr Aelodau y
byddent yn trafod hyn â Phrif Weithredwr Luminate.
Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.