Mater - cyfarfodydd

Quarter 3 Performance Report

Cyfarfod: 16/12/2021 - Is-bwyllgor Craffu Hamdden a Diwylliant (Eitem 2)

2 Data Rheoli Perfformiad Chwarterol 2021-2022 - Perfformiad Chwarter 2 (1 Ebrill 2021 - 30 Medi 2021) pdf eicon PDF 305 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd data rheoli perfformiad chwarter 2 i'r aelodau, am y cyfnod o 1 Ebrill 2021 i 30 Medi 2021 ar gyfer y Gyfarwyddiaeth Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes mewn perthynas â Hamdden a Diwylliant, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Amlygodd yr aelodau eu dealltwriaeth o'r pwysau yr oedd swyddogion wedi'i ysgwyddo yn ystod y cyfnod digynsail hwn a chanmolasant eu hymdrechion i gadw'r gwasanaeth i fynd dan amgylchiadau mor anodd gyda chyfyngiadau COVID-19. Adlewyrchwyd y rhain yn y dangosyddion perfformiad.

 

Gofynnwyd a fyddai modd cymhwyso cyfradd gonsesiynol i gynyrchiadau Luminate i sicrhau nad yw teuluoedd yn colli’r cyfle i fynd i’r digwyddiad oherwydd y gost. Sicrhaodd y swyddogion yr Aelodau y byddent yn trafod hyn â Phrif Weithredwr Luminate.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.