5 Adnewyddu'r goleuadau yn Rhodfa'r Faenor, Glyn-nedd PDF 84 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith yr ymdriniwyd â
nifer o'r rhain eisoes fel rhan o raglen fuddsoddi'r cyngor, a’u bod yn
defnyddio'r un broses a gynhaliwyd dan y brif raglen adnewyddu.
Penderfyniad:
Ar
ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr asesiad effaith integredig, rhoddir
cymeradwyaeth i swyddogion ofyn am ganiatâd a chytundeb ffurfiol gan Ystâd
Aberpergwm i fynd i mewn i Manor Drive ac adnewyddu goleuadau o dan y Ddeddf
Iechyd Cyhoeddus, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Rheswm dros y penderfyniad:
I
fynd i'r afael ag isadeiledd goleuadau stryd sydd wedi cyrraedd diwedd eu hoes
yn Manor Drive, Glyn-nedd.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.