Mater - cyfarfodydd

Craffu Cyn Penderfynu

Cyfarfod: 22/09/2021 - Pwyllgor Craffu'r Cabinet (Eitem 3)

Craffu Cyn Penderfynu

·        Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)9c

·        Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet (Cylliad) ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:

Adroddiad Monitro a Diweddaru'r Gyllideb Refeniw 2021/2022

Cafodd yr Aelodau'r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â rhagamcanion cyfredol y gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22.

Soniodd swyddogion fod yr Adroddiadau Monitro a Diweddaru'r Gyllideb Refeniw yn cael eu darparu i'r Aelodau bob mis oherwydd effaith COVID-19.

Tynnwyd sylw at y ffaith mai £1.583m oedd y  tanwariant a ragwelwyd ar hyn o bryd eleni; roedd hyn yn rhannol oherwydd ad-dalu colli incwm a'r gwariant o Gronfa Galedi Llywodraeth Cymru. Roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn nodi bod y cyngor, hyd yma, wedi cael ad-daliad o £2.4m, ac y cytunwyd hefyd ar hawliad colli incwm o £1.221m ar gyfer chwarter un.

Mewn cyfarfod blaenorol o'r Pwyllgor, hysbyswyd yr Aelodau fod £12m ychwanegol wedi'i glustnodi’r ddiweddar i'r cyngor oddi wrth Llywodraeth Cymru; Gofynnodd yr Aelodau a oedd yr arian ychwanegol hwn wedi'i adlewyrchu yn nhanwariant a gorwariant yr adroddiad a ddosbarthwyd, ac os nad oedd, a ellid ei roi yn y cronfeydd wrth gefn i wrthbwyso'r beichiau y gall preswylwyr eu hwynebu wrth symud ymlaen, megis Treth y Cyngor.

Tynnwyd sylw at y ffaith bod yr Aelodau wedi cael gwybod am y £12m ychwanegol a roddwyd mewn cronfeydd wrth gefn yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Mehefin 2021; yn ystod y cyfarfod hwn, dywedwyd bod yr arian hwn wedi'i neilltuo i gronfeydd wrth gefn penodol ar draws y gwahanol feysydd gwasanaeth. Cadarnhaodd swyddogion fod yr arian hwn yn dal i fod yn y cronfeydd wrth gefn, ac eithrio'r symudiadau wrth gefn fel y nodir ar dudalennau 26 a 27 o'r adroddiad a ddosbarthwyd.  Ychwanegwyd bod adroddiad a gymeradwywyd gan y Cabinet ar 30 Mehefin 2021 hefyd wedi nodi'r defnydd o tua £4m o gronfeydd wrth gefn, a ddangoswyd yn yr cronfeydd wrth gefn a nodwyd yn Atodiad 3 yr adroddiad a ddosbarthwyd.

Hysbyswyd y Pwyllgor fod y cronfeydd wrth gefn penodol a ragwelwyd tua £54m ar hyn o bryd; ni fydd y sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn yn hysbys tan fis Mai 2022. Soniwyd y bydd y cyngor yn pennu’i gyllideb ar gyfer 2022/23 ar ddechrau mis Mawrth 2022, a oedd cyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.

Drwy roi diweddariadau misol i aelodau, roedd yn rhoi gwybodaeth iddynt am beth fydd y sefyllfa a ragwelir ar gyfer cyfarfod pennu'r gyllideb ym mis Mawrth; bydd cyfleoedd i adolygu lefel y cronfeydd wrth gefn sy'n cael eu defnyddio er mwyn ategu'r gyllideb sylfaenol a/neu ar gyfer mentrau penodol y mae'r cyngor yn eu cynnig.   Fodd bynnag, nodwyd y dylai Aelodau fod yn ymwybodol o'r gostyngiad mewn cronfeydd wrth gefn a chynaliadwyedd ariannol y cyngor.

Amlygwyd bod tanwariant o £17 mil ar gymhorthion a chyfarpar yn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai. Gofynnwyd a oedd gan yr Awdurdod y ddarpariaeth i adennill ac ailddefnyddio unrhyw gyfarpar pan fydd preswylydd yn marw. Esboniodd swyddogion fod y tanwariant rhagweledig yn ganlyniad i ddyrannu arian ychwanegol i'r gyllideb honno yn ystod blynyddoedd blaenorol. Cadarnhawyd bod mecanweithiau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3