Mater - cyfarfodydd

Neath Town Centre Lighting Column Replacement

Cyfarfod: 24/09/2021 - Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet (Eitem 6)

6 Gosod Colofn Oleuo newydd yng nghanol tref Castell Nedd pdf eicon PDF 75 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd pe na bai'r goleuadau'n cael eu hadnewyddu byddai angen rhoi colofnau a chyflenwadau pŵer ar wahân ar waith, felly byddai angen y mesurau a amlygwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig, rhoddir cymeradwyaeth i waith newid colofnau goleuadau stryd yng Nghanol Tref Castell-nedd gael ei ariannu gan arbedion untro o £60 mil yn y gyllideb ynni goleuadau sy'n gysylltiedig â'r gwaith parhaus o ariannu gwaith newid lampau ynni isel SALIX, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

I fynd i'r afael ag isadeiledd sy'n heneiddio ac anghenion cymunedol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.