6 Gosod Colofn Oleuo newydd yng nghanol tref Castell Nedd PDF 75 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Nodwyd pe na bai'r goleuadau'n cael eu hadnewyddu byddai angen rhoi
colofnau a chyflenwadau pŵer ar wahân ar waith, felly byddai angen y
mesurau a amlygwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig, rhoddir
cymeradwyaeth i waith newid colofnau goleuadau stryd yng Nghanol Tref
Castell-nedd gael ei ariannu gan arbedion untro o £60 mil yn y gyllideb ynni
goleuadau sy'n gysylltiedig â'r gwaith parhaus o ariannu gwaith newid lampau
ynni isel SALIX, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Rheswm dros y penderfyniad:
I
fynd i'r afael ag isadeiledd sy'n heneiddio ac anghenion cymunedol.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.