Craffu Cyn Penderfynu
· Dewis eitemau
priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu
cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr
Aelodau Craffu)
· Dewis eitemau
priodol o agenda Is-bwyllgor
(Cyllid) y Cabinet at ddiben
craffu cyn penderfynu (amgaeeir adroddiadau Is-bwyllgor Cyllid y Cabinet ar gyfer yr Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda'r Cabinet:
Model Ariannu Cludiant Cymunedol Arfaethedig ar gyfer y Dyfodol
Diweddarwyd yr aelodau am y cais i ddiwygio'r dull o ddyrannu cyllid y
Grant Cefnogi Gwasanaethau Bysus, sydd ar gael i sefydliadau Trafnidiaeth
Gymunedol, fel a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Gofynnwyd a fyddai unrhyw sefydliadau trafnidiaeth gymunedol eraill yn
gymwys i wneid cais am y cyllid. Cadarnhawyd y byddai'r cynllun ar agor i bob
sefydliad sy'n gweithredu o fewn Castell-nedd Port Talbot.
Cafwyd trafodaethau ynghylch strategaeth Llywodraeth Cymru, wrth gefnogi
cynlluniau o'r natur hon sy'n gynaliadwy ac a ddarperir yn lleol. Nodwyd bod
Llywodraeth Cymru'n adolygu'r holl gynlluniau ariannu ar hyn o bryd o ran
trafnidiaeth, ac roedd y cyngor yn aros am y manylion.
Mynegwyd pryderon am y prif gwmnïau trafnidiaeth megis 'First Cymru' yn
lleihau eu gwasanaethau yn dilyn integreiddio trafnidiaeth gymunedol. Sicrhaodd
swyddogion yr aelodau na fyddai'r gwasanaethau yn gweithio'n gystadleuol yn
erbyn ei gilydd ac yn hytrach yn gweithio gyda'i gilydd. Trafnidiaeth gymunedol
yn cael ei hystyried fel gwasanaeth ychwanegol.
Gofynnodd yr aelodau i'r swyddogion a fyddent yn ystyried amlygu'r
pryderon ynghylch materion trafnidiaeth mewn adrannau eraill i Lywodraeth
Cymru. Defnyddiodd yr aelodau y Gwasanaethau Cymdeithasol fel enghraifft, gan
amlygu'r anawsterau y mae gofalwyr yn eu hwynebu wrth geisio teithio i'r rheini
y mae angen gofal arnynt. Roedd swyddogion yn cydnabod bod y pryderon hyn yn
berthnasol nid yn unig i'r Gwasanaethau Cymdeithasol ond mewn meysydd eraill
hefyd, gan y gall trafnidiaeth fod yn gyfyngedig ar wahanol adegau o'r diwrnod
a byddent yn rhoi adborth am hyn i'r grŵp adolygu bysus.
Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w
hystyried gan y Cabinet.
Cynllun Corfforaethol 2021-2023
Darparwyd Cynllun Corfforaethol diweddaredig i'r aelodau ar gyfer y
cyfnod 2021 - 2023 i'w ystyried, fel a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Nododd aelodau fod yr Amcanion Lles yr un amcanion a gytunwyd yn 2017 ac
roedd y cynllun drafft yn fwy o ddatganiad sefyllfa a oedd yn manylu ar
sefyllfa bresennol y cyngor o ran y pandemig a'r cynllun adfer.
Gofynnodd yr aelodau am eglurder ynghylch y cynllun ymgynghori ac
ymgysylltu a fanylwyd yn yr adroddiad. Esboniodd swyddogion eu bod yn y broses
o ddatblygu cynllun ymgynghori ac ymgysylltu a fyddai'n cynnwys barn y gymuned
a sefydliadau cymunedol.
Cafwyd trafodaethau ynghylch Ansawdd Aer, nodwyd yn y cyfarfod y
byddai'n well trafod y pwnc hwn y tu allan i'r cyfarfod.
Gofynnodd yr aelodau beth fyddai'r mecanwaith adrodd mewn perthynas â'r
camau gweithredu a nodwyd o'n cynllun gweithredu Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal
Plant, a fanylwyd ar dudalen 79 o'r adroddiad. Cadarnhaodd swyddogion y byddent
yn darparu'r wybodaeth hon y tu allan i'r cyfarfod.
Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w
hystyried gan y Cabinet
Cyd-bwyllgor Corfforedig Rhanbarthol De-orllewin Cymru
Rhoddwyd trosolwg cryno i'r aelodau am y gofyniad i sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig (CBC) ynghyd â cheisio awdurdod dirprwyedig i swyddogion gymryd rhan mewn trafodaethau gyda'r awdurdodau, fel a ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3