Craffu Cyn Penderfynu
· Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Craffodd y Pwyllgor ar yr
eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:
Strategaeth
Seiberddiogelwch Castell-nedd Port Talbot
Darparwyd trosolwg i aelodau
o Strategaeth Seiberddiogelwch Cyngor Castell-nedd Port Talbot, fel y nodir yn
yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Cynhaliwyd trafodaethau
ynghylch diogelwch e-byst ac atal e-byst maleisus. Nodwyd bod protocolau ar
waith o fewn y gwasanaethau TG i helpu i ddiogelu gwasanaethau rhag unrhyw
e-byst maleisus.
Yn dilyn craffu, roedd y
pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet
Swyddfa Archwilio Cymru -
Archwilio asesiad Cyngor Castell-nedd Port Talbot o berfformiad 2020-21
Rhoddodd
aelodau glod i swyddogion ar yr adborth gan Swyddfa Archwilio Cymru mewn
perthynas â Chyngor Castell-nedd Port Talbot yn bodloni ei oblygiadau
cyfreithiol.
Yn
dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.
Arian
Grant y Trydydd Sector - Cais ychwanegol am gyllid
Derbyniodd
aelodau wybodaeth mewn perthynas â chais a dderbyniwyd ar gyfer arian grant y
trydydd sector ar ôl y dyddiad cau swyddogol.
Gofynnodd
aelodau am y rhesymau dros y cais hwyr a gofynnwyd am sicrwydd na fyddai
ceisiadau hwyr yn y dyfodol yn cael eu blaenoriaethu. Cadarnhaodd swyddogion ei
bod yn broblem weinyddol ac na fyddent yn cael eu blaenoriaethu wrth symud
ymlaen.
Yn dilyn craffu, roedd y
pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet