7 Rhaglen Gyfalaf Traffig 2021-2022: Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Arfaethedig PDF 53 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd,
y dylid rhoi
cymeradwyaeth i Swyddogion Adrannau Traffig, ar gyfer y cynlluniau a gynhwysir
yn Rhaglen Gyfalaf Traffig 2021-2022, a chânt eu hysbysebu yn unol â'r gofynion
statudol, ac y dylid gweithredu'r cynlluniau yn unol â'r gofynion statudol
perthnasol a geir yn y rheoliadau Traffig Ffyrdd presennol, ar yr amod na
dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau. Pe bai unrhyw wrthwynebiadau'n cael eu derbyn
mewn perthynas ag unrhyw gynlluniau, byddai'r rhain yn cael eu hadrodd yn ôl i
Fwrdd y Cabinet dros Strydlun a Pheirianneg am benderfyniad.
Rheswm dros y penderfyniad:
Mae'r cynlluniau'n angenrheidiol er budd diogelwch
ffyrdd ac yn darparu darpariaethau parcio digonol o fewn y Fwrdeistref Sirol.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.