Craffu Cyn Penderfynu
· Dewis eitemau
priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu
cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr
Aelodau Craffu)
· Dewis eitemau
priodol o agenda Is-bwyllgor
(Cyllid) y Cabinet at ddiben
craffu cyn penderfynu (amgaeeir adroddiadau Is-bwyllgor Cyllid y Cabinet ar gyfer yr Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Craffodd
y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda'r Cabinet:
Adroddiad
Blynyddol 2019-2020 ar Gynllun
Cydraddoldeb Strategol 2015-2019
Cyflwynwyd
Adroddiad Blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2015-2019 i'r aelodau ar
gyfer y cyfnod 2019-2020, fel a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Cafwyd
trafodaethau ynghylch Amcan Cydraddoldeb 6 - Gwella mynediad i'r amgylchedd
drwy ddiwallu anghenion pobl o grwpiau gwarchodedig lle bo'r rhain yn wahanol i
anghenion pobl eraill. Holodd yr aelodau a oedd unrhyw ddatblygiadau mewn
perthynas â gwasanaeth Shopmobility yn cael ei leoli yng nghanol tref
Castell-nedd er mwyn gwella'r defnydd ohono. Cynghorwyd aelodau fod y
gwasanaeth Shopmobility wedi'i leoli yn y maes parcio aml-lawr newydd ar hyn o
bryd, i roi mynediad ar unwaith i ddefnyddwyr yn syth ar ôl iddynt barcio'u
cerbyd. Nodwyd hefyd y bu gostyngiad mewn defnydd oherwydd effaith y pandemig
ac yn dilyn adferiad y pandemig, gobeithir y byddai defnydd o'r gwasanaeth yn
cynyddu.
Yn
dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd
y Cabinet.
Adroddiad
Cynnydd Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg - mis Hydref
2019
- Mawrth 2020
Cyflwynodd
swyddogion yr adroddiad cynnydd Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg ar gyfer y
cyfnod o fis Hydref 2019 i fis Mawrth 2020.
Nododd
aelodau yr effaith yr oedd COVID-19 wedi'i chael ar hyrwyddo'r Gymraeg, fodd
bynnag nodwyd bod yr adroddiad cynnydd ar gyfer y cyfnod ychydig cyn dechrau'r
pandemig. Nodwyd, dros y flwyddyn ddiwethaf mae'n debygol y byddai effaith ar
yr adroddiad cynnydd ar gyfer y cyfnod 2020-21, fodd bynnag roedd nifer
cadarnhaol o bobl wedi manteisio ar gyrsiau hyfforddiant Cymraeg rhithwir.
Mynegwyd
pryder ynghylch y golled o'r Gymraeg yn cael ei defnyddio ar lafar, yn dilyn
cau ysgolion oherwydd y pandemig, ar effaith y byddai hyn wedi'i chael ar
fyfyrwyr. Ystyriodd swyddogion y pryderon a godwyd a sicrhawyd yr aelodau, wrth
i ddisgyblion ddechrau dychwelyd i'r ysgol, y byddai'n flaenoriaeth iddynt
gynnal adolygiad lleol i sicrhau y rhoddir ystyriaeth i golli addysg.
Canmolodd
yr aelodau yr athrawon am eu gwaith o ddarparu cefnogaeth ac addysg i
ddisgyblion yn ystod y pandemig.
Nodwyd
bod Adnoddau Dynol yn gallu adrodd ar nifer y gweithwyr sy'n meddu ar sgiliau
Cymraeg drwy'r porth gweithwyr, a gofynnodd yr aelodau am y ffigur hwn.
Hysbysodd swyddogion yr aelodau y byddent yn casglu'r wybodaeth hon ynghyd y tu
hwnt i'r cyfarfod.
Yn
dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd
y Cabinet.
Cynllun
Gweithredu Gwella Llywodraethu Corfforaethol - Adroddiad Cynnydd
Darparwyd
diweddariad hanner blwyddyn i'r aelodau am y cynnydd a wnaed ar y Cynllun
Gweithredu Gwella Llywodraethu Corfforaethol ar gyfer 2020-2021. Nodwyd bod y
cynllun gweithredu'n adlewyrchu'r materion llywodraethu a nodwyd yn Natganiad
Llywodraethu Blynyddol y cyngor ar gyfer 2019-2020 a adroddwyd i'r Cabinet ar
21 Mai 2020.
O fewn y Cynllun Gweithredu Gwella Llywodraethu, holodd yr aelodau am y camau gweithredu a gymerwyd i sicrhau y gellir gwneud penderfyniadau cyfreithlon pe na bai modd defnyddio'r Protocol Camau Gweithredu Brys. Hysbysodd swyddogion yr aelodau fod y camau gweithredu hyn yn cael eu cymryd i sicrhau ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 1