Craffu Cyn Penderfynu
·
Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu
(amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar
agenda'r Cabinet:
Ymrwymiad i System TG a ffefrir i Gefnogi
Swyddogaethau Gwasanaethau Cymdeithasol
Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am
system TG a ffefrir i gefnogi swyddogaethau'r Gwasanaethau Cymdeithasol.
Cynhaliwyd trafodaethau i sicrhau a fyddai'r system
arfaethedig yn gydnaws â'r gwasanaeth Iechyd er mwyn parhau i gydweithio'n
effeithiol. Esboniwyd y byddai'r system TG ei hun yn gwella gwaith tîm am ei
fod yn gwella'r elfennau ymarferol.
Tynnwyd sylw at y ffaith y byddai fersiwn wedi'i
diweddaru o Oracle Forms ar gael o fewn yr ychydig flynyddoedd nesaf. Gofynnwyd
sut y byddai ailfodelu'r gwasanaethau i oedolion yn cyd-fynd â'r amserlenni
diweddaru TG. Nodwyd y byddai'r diweddariadau'n gwella ailfodelu'r Gwasanaethau
i Oedolion. Nodwyd, wrth i'r ailfodelu barhau, y byddai'r cyngor yn diweddaru'r
System TG berthnasol yn ôl y gofyn.
Trafododd yr Aelodau y dyddiad cynharaf o ran pryd
y byddai'r cyngor yn mudo'n realistig i blatfform WCCIS. Cadarnhaodd swyddogion
na fyddent yn ystyried newid eu barn o fewn y 5 mlynedd nesaf gan eu bod yn
buddsoddi yn eu system eu hunain ar hyn o bryd.
Holwyd ynghylch yr elfennau risg, megis dyrannu
adnoddau staffio TG a phwy fyddai'n ariannu'r gwaith. Sicrhaodd swyddogion yr
aelodau bod gan y tîm y sgiliau i ddatblygu’r system o fewn y tîm ac roedd
cynllun wedi’i ystyried i sicrhau bod adnoddau ar gael o fewn y tîm. Nodwyd
hefyd y byddai cronfeydd cyllideb wrth gefn yn cael eu trosglwyddo o'r
Gwasanaethau Cymdeithasol i'r Tîm TG canolog i dalu'r costau.
Gofynnwyd a fyddem dan anfantais am ddefnyddio’n
system TG ein hunain. Sicrhaodd swyddogion na fyddai'r cyngor dan anfantais gan
y byddai'r system TG yn cael ei theilwra'n benodol ar gyfer Castell-nedd Port
Talbot.
Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r
cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.
Gorchmynion Creu neu Ddiddymu Arfaethedig ar gyfer
y llwybr troed o Hodgsons Road i afon Tawe - Cymuned Ystalyfera
(Cadarnhaodd y Cynghorydd Clement Williams ei budd
ar y pwynt hwn a gadawodd y cyfarfod)
Gwnaeth swyddogion ddiwygiad i'r adroddiad, gan
newid yr Ward yr Effeithir arni o 'Ystalyera' i ' Godre'r-Graig’
Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r
cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.