Craffu Cyn Penderfynu
·
Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn
penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gufer yr Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Craffodd y Pwyllgor ar
yr eitemau canlynol ar agenda'r Cabinet:
Adroddiad Diweddaru a Monitro Cyllideb Refeniw Chwarter 2 - 2020-21
Cyflwynwyd Adroddiad
Diweddaru a Monitro'r Gyllideb Refeniw i'r Pwyllgor ar gyfer Chwarter 2
2020-21.
Mewn perthynas â
Hillside, gofynnodd yr Aelodau i Swyddogion am eglurder ynghylch y colledion a
chadarnhad y byddai'r cyngor yn cael ei ad-dalu am y colledion hynny gan
Lywodraeth Cymru. Nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd bod y cyngor eisoes
wedi cael ad-daliad o £467k am y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Mehefin;
cyfrifwyd y gorwariant a ragwelwyd o £894k ar ôl ystyried yr ad-daliad.
Hysbyswyd yr aelodau fod hawliad o £2.3miliwn wedi'i gyflwyno ar gyfer ail
chwarter eleni (y cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Medi) ac o'r £2.3miliwn
hwnnw, byddai £326,000 ychwanegol yn cael ei ddyrannu i Hillside. O ran y
costau ychwanegol, sy'n dod i ychydig dros £500,000, byddai'r cyngor yn
cyflwyno hawliadau i Lywodraeth Cymru bob chwarter; fodd bynnag, byddai'r arian
a dderbynnir yn dibynnu ar faint o arian yr oeddent wedi'i adael yng Nghronfa
Caledi’r Awdurdodau Lleol, a byddai angen i Swyddogion adolygu a fyddai'r swm
yn ddigonol i ddelio â'r gorwariant. Gofynnwyd a fyddai'n rhaid i'r cyngor
ariannu'r gorwariant sy'n weddill, a dywedodd Swyddogion y gallai fod elfen y
byddai'n rhaid i'r cyngor ei hariannu ar hyn o bryd oni bai fod Llywodraeth
Cymru yn darparu digon o arian yn ail hanner y flwyddyn; Byddai swyddogion yn
parhau i fonitro hyn ac yn mynd ar drywydd Llywodraeth Cymru. Eglurodd
swyddogion, oherwydd bod llai o incwm ar gael i dalu costau sefydlog rhedeg y
cyfleuster, mae hyn wedi arwain at y golled a ragwelir ar gyfer gweddill y
flwyddyn.
Roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn nodi bod gan y Gwasanaethau Parcio orwariant o £903,000 ac na fyddai unrhyw gyllid pellach ar gael ar gyfer colled incwm o ganlyniad i benderfyniadau polisi lleol; Gofynnodd yr aelodau am eglurder ynglŷn â hyn ac a oedd unrhyw arwydd y byddai rhagor o arian yn cael ei ychwanegu at Gronfa Caledi Awdurdodau Lleol i gefnogi Cynghorau ledled Cymru ar hyn o bryd. Nodwyd y byddai'n rhaid i unrhyw awdurdod lleol ariannu costau ychwanegol/colled incwm o ganlyniad i benderfyniadau lleol a wneir; roedd trefniadau parcio am ddim ar waith ar gyfer canol trefi yng Nghastell-nedd Port Talbot drwy fis Gorffennaf tan ddiwedd mis Awst ac yna ailgyhoeddwyd y ffïoedd o 1 Medi 2020. Felly, rhwng mis Gorffennaf a mis Awst, ni fyddai Llywodraeth Cymru yn darparu unrhyw incwm ychwanegol. Yn yr un modd o ran glan môr Aberafan a lleoliadau amrywiol eraill, ail-gyflwynwyd y taliadau parcio o 1 Awst 2020, felly byddai cyfnod ym mis Gorffennaf lle na fyddai Llywodraeth Cymru yn cynnig ad-daliad. Dywedwyd bod Llywodraeth Cymru yn barod i dderbyn galwadau am gyllid ychwanegol ar gyfer llai o ymwelwyr ac am yr ail chwarter roedd y cyngor wedi cyflwyno cais gwerth £181,000 am adferiad. Ychwanegodd swyddogion fod y gorwariant a rhagdybir o £903,000 ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol ac os bydd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 1