Craffu Cyn Penderfynu
·
Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu
cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr
Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar
agenda'r Cabinet:
Kickstart yr Adran Gwaith a Phensiynau –
Cynrychiolydd y Porth
Canmolodd yr aelodau'r cynllun a thrafodwyd cwmpas
a hyblygrwydd cymhwysedd y cynllun. Gofynnwyd a fyddai gan bobl ifanc nad
oeddent ar gredyd cynhwysol ond yn ennill cyflog bach hawl i'r cynllun hwn.
Esboniodd Swyddogion fod y meini prawf yn llym iawn, fodd bynnag pe bai gan yr
aelod unrhyw unigolion penodol yr oedd angen cymorth arnynt, gallai Swyddogion
eu cynghori ymhellach.
Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.