Datganiadau o fuddiannau
Cofnodion:
Gwnaeth yr aelodau canlynol ddatganiad o fudd ar
ddechrau'r cyfarfod:
Y Cynghorydd P Richards Parthed
cynrychiolaeth y cyngor ar gyrff allanol gan mai ef yw cynrychiolydd y cyngor
ar gyfer gwasanaethau Gofal a Thrwsio Castell-nedd Port Talbot.
Y Cynghorydd S Rahaman Parthed
cynrychiolaeth y cyngor ar gyrff allanol gan ei fod yn un o gynrychiolwyr y
cyngor ar Gymdeithas Cymunedau Lleiafrifoedd Ethnig a Du Castell-nedd Port
Talbot ac ar hyn o bryd mae'n ysgrifennydd y gymdeithas.
Y Cynghorydd S Reynolds Parthed y
newidiadau i gynrychiolaeth Tai Tarian gan mai hi yw cynrychiolydd y cyngor ar
fwrdd gwirfoddol Tai Tarian.
Y Cynghorydd D Jones Parthed
cynrychiolaeth y cyngor ar gyrff allanol gan ei bod yn un o gynrychiolwyr y
cyngor ar Gymdeithas Cymunedau Lleiafrifoedd Ethnig a Du Castell-nedd Port
Talbot ac mae'n aelod o fwrdd Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Castell-nedd Port
Talbot (CGGCNPT) mewn cymhwyster annibynnol.
Y Cynghorydd S Penry Parthed
Cynrychiolaeth y Cyngor ar Gyrff Allanol gan ei bod yn un o gynrychiolwyr y
cyngor ar fwrdd Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot
(CGGCNPT).
Y Cynghorydd L Jones Parthed
Cynrychiolaeth y Cyngor ar Gyrff Allanol gan ei bod yn un o gynrychiolwyr y
cyngor ar Gymdeithas Cymunedau Lleiafrifoedd Ethnig a Du Castell-nedd Port
Talbot .
Y Cynghorydd N Hunt Parthed Cynrychiolaeth y Cyngor ar
Gyrff Allanol gan ei fod yn aelod o fwrdd Ardal Gwella Busnes Port Talbot (BID)
mewn cymhwyster annibynnol.