Craffu cyn penderfynu
·
Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu
cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gufer yr Aelodau
Craffu)
Cofnodion:
Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar
agenda'r Cabinet:
Sefydlu Cadetiaid y Maer
Canmolodd yr aelodau ymrwymiad y cyngor at bobl
ifanc, a fyddai'n helpu iddynt gael profiadau yn y dyfodol.
Nododd yr aelodau y penodir tri chadét y Maer ar
gyfer pob blwyddyn ddinesig o fis Mai 2020. Byddai'r rhain yn cael eu dewis o
aelodau'r fyddin, y llynges frenhinol a Chadetiaid yr Awyrlu Brenhinol. Byddai
darn o waith yn cael ei gynnal ar gyfer estyn y cyfrifoldeb i gynnwys cadetiaid
eraill, megis yr heddlu, y gwasanaeth ambiwlans a'r gwasanaeth tân.
Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.
Polisi Hysbysebu a Noddi
Trafodwyd cwmpas y polisi yn unol â chaffael
corfforaethol/moesegol, tendro a chreu incwm. Trafodwyd y trefniadau presennol
ynghylch noddi cylchfannau ac a fyddai'r trefniadau hyn yn parhau neu'n cael eu
cyflawni'n fewnol ar ddiwedd cyfnod y contract cyfredol.
Roedd y pynciau eraill a drafodwyd yn cynnwys:
·
Ceisiadau cynllunio a
chaniatâd priffyrdd
·
Cydweithio â sefydliadau
trydydd sector
·
Sicrhau bod hysbysebu'n parchu'r amgylchedd.
Oherwydd newidiadau diweddar i bortffolio aelodau'r
Cabinet, nododd yr aelodau y dylid newid y cyfeiriadau at y Dirprwy Arweinydd
yn y polisi, fel y manylwyd yn nhudalen 53 adroddiad Bwrdd y Cabinet a
ddosbarthwyd o 'Ddirprwy Arweinydd' i 'Aelod y Cabinet Dros Gyllid'.
Yn dilyn y broses graffu,
roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.