Mater - cyfarfodydd

To select appropriate items from the Cabinet (Finance) Sub Committee (Cabinet Finance Sub Committee reports enclosed for Scrutiny Members)

Cyfarfod: 19/02/2020 - Pwyllgor Craffu'r Cabinet (Eitem 3)

Craffu cyn penderfynu

·        Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gufer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda'r Cabinet:

 

Sefydlu Cadetiaid y Maer

 

Canmolodd yr aelodau ymrwymiad y cyngor at bobl ifanc, a fyddai'n helpu iddynt gael profiadau yn y dyfodol. 

 

Nododd yr aelodau y penodir tri chadét y Maer ar gyfer pob blwyddyn ddinesig o fis Mai 2020. Byddai'r rhain yn cael eu dewis o aelodau'r fyddin, y llynges frenhinol a Chadetiaid yr Awyrlu Brenhinol. Byddai darn o waith yn cael ei gynnal ar gyfer estyn y cyfrifoldeb i gynnwys cadetiaid eraill, megis yr heddlu, y gwasanaeth ambiwlans a'r gwasanaeth tân.

 

Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.

 

Polisi Hysbysebu a Noddi

 

Trafodwyd cwmpas y polisi yn unol â chaffael corfforaethol/moesegol, tendro a chreu incwm. Trafodwyd y trefniadau presennol ynghylch noddi cylchfannau ac a fyddai'r trefniadau hyn yn parhau neu'n cael eu cyflawni'n fewnol ar ddiwedd cyfnod y contract cyfredol.

 

Roedd y pynciau eraill a drafodwyd yn cynnwys:

 

·        Ceisiadau cynllunio a chaniatâd priffyrdd

·        Cydweithio â sefydliadau trydydd sector

·         Sicrhau bod hysbysebu'n parchu'r amgylchedd.

 

Oherwydd newidiadau diweddar i bortffolio aelodau'r Cabinet, nododd yr aelodau y dylid newid y cyfeiriadau at y Dirprwy Arweinydd yn y polisi, fel y manylwyd yn nhudalen 53 adroddiad Bwrdd y Cabinet a ddosbarthwyd o 'Ddirprwy Arweinydd' i 'Aelod y Cabinet Dros Gyllid'.

 

Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.