Mater - cyfarfodydd

To select appropriate items from the Cabinet (Finance) Sub Committee (Cabinet Finance Sub Committee reports enclosed for Scrutiny Members)

Cyfarfod: 12/02/2020 - Pwyllgor Craffu'r Cabinet (Eitem 1)

Craffu Cyn Penderfyniad

Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gufer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda'r Cabinet:

 

Ymateb ar y cyd i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

 

Trafododd yr aelodau gwmpas y Ddeddf mewn perthynas â'r gwasanaethau a'r gefnogaeth a gynigir yn lleol. Gall dynion a menywod gael mynediad at y gwasanaethau hyn yr un mor hawdd, ac mae nifer o ddynion eisoes wedi derbyn cymorth yn yr ardal leol.

 

Tueddiad a nodwyd yn ddiweddar oedd cam-drin domestig gan blant tuag at eu rhieni. Gellir cynnig cymorth hefyd i bobl hŷn sydd wedi profi cam-drin emosiynol neu ariannol gan eu partneriaid.

 

Mae gwaith partneriaeth yn allweddol, a chafodd trinwyr gwallt lleol eu briffio ynghylch ble i gyfeirio dioddefwyr cam-drin domestig/trais posib, oherwydd y gallai rhai cleientiaid fod yn fwy parod i ddweud pethau personol neu rannu gwybodaeth gyda thrinwyr gwallt. Roedd hyn yn nodi'r dulliau gwahanol y mae angen eu defnyddio i hybu pobl wahanol i gyfaddef.

 

Enghraifft weithredol arall o weithio mewn partneriaeth oedd yr heddlu, sy'n rhannu gwybodaeth am adroddiadau o gam-drin domestig gydag ysgolion. Gellid monitro a rhoi cymorth i ddisgyblion y mae eu rhieni wedi profi cam-drin domestig dros y penwythnos neu'r gwyliau ysgol lle bo angen.

 

Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.

 

 


Cyfarfod: 05/02/2020 - Pwyllgor Craffu'r Cabinet (Eitem 2)

Dewis eitemau priodol o agenda'r Cabinet (Adroddiadau'r Cabinet yn amgaeedig ar gyfer yr aelodau craffu)

Cofnodion:

Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda'r Cabinet:

 

Cynllun Gweithredu'r Cymoedd - Adroddiad Cynnydd

 

Trafododd yr aelodau'r diffyg cludiant ar hyn o bryd i wasanaethu cymunedau'r cymoedd. Nodwyd bod Cyd-bwyllgor y Fargen Ddinesig wedi  sefydlu Is-bwyllgor Trafnidiaeth cysgodol yn ddiweddar, gyda chytundeb Llywodraeth Cymru, i fynd i'r afael â blaenoriaethau'r dyfodol. Er bod angen gwneud llawer o waith yn yr ardal hon, roedd y blociau adeiladau'n cael eu rhoi yn eu lle i wella'r sefyllfa gyfredol.

 

Trafodwyd deiliadaeth uchel unedau busnes bach yng nghymunedau'r cymoedd, a nododd aelodau'r dyraniad ychwanegol a wnaed yn y rhaglen gyfalaf adfywio er mwyn gallu manteisio ar gyfleoedd ariannu posib.

 

Trafodwyd enghreifftiau o fentrau cymdeithasol, gan gynnwys y gwasanaeth gofal cartref yn y dyfodol. Byddai'r gwasanaeth yn fwy daearyddol yn y dyfodol, ac yn darparu swyddi lleol i bobl leol. Trafodwyd y gwahaniaeth rhwng y gwasanaeth cymorth cartref (gofal personol lefel isel) a'r gwasanaeth gofal cartref (lefel uwch a pheth gofal meddygol).

 

Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.

 

Trefniadau'r Dyfodol mewn perthynas â Chyfranddaliadau Cyngor Castell-nedd Port Talbot yng nghwmïau Baglan Bay Company Limited a Coed Darcy Limited.

 

Mewn ymateb i gwestiynau'r aelodau, eglurodd swyddogion mai pris y cyfranddaliadau a ddaliwyd gan y cyngor mewn perthynas â Coed Darcy Limited oedd £1.

 

Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.