Craffu Cyn Penderfyniad
Dewis eitemau priodol o
Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn
penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gufer yr
Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Craffodd y
Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda'r Cabinet:
Ymateb ar y
cyd i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru)
2015
Trafododd yr
aelodau gwmpas y Ddeddf mewn perthynas â'r gwasanaethau a'r gefnogaeth a
gynigir yn lleol. Gall dynion a menywod gael mynediad at y gwasanaethau hyn yr
un mor hawdd, ac mae nifer o ddynion eisoes wedi derbyn cymorth yn yr ardal
leol.
Tueddiad a
nodwyd yn ddiweddar oedd cam-drin domestig gan blant tuag at eu rhieni. Gellir
cynnig cymorth hefyd i bobl hŷn sydd wedi profi cam-drin emosiynol neu
ariannol gan eu partneriaid.
Mae gwaith
partneriaeth yn allweddol, a chafodd trinwyr gwallt lleol eu briffio ynghylch
ble i gyfeirio dioddefwyr cam-drin domestig/trais posib, oherwydd y gallai rhai
cleientiaid fod yn fwy parod i ddweud pethau personol neu rannu gwybodaeth gyda
thrinwyr gwallt. Roedd hyn yn nodi'r dulliau gwahanol y mae angen eu defnyddio
i hybu pobl wahanol i gyfaddef.
Enghraifft
weithredol arall o weithio mewn partneriaeth oedd yr heddlu, sy'n rhannu
gwybodaeth am adroddiadau o gam-drin domestig gydag ysgolion. Gellid monitro a
rhoi cymorth i ddisgyblion y mae eu rhieni wedi profi cam-drin domestig dros y
penwythnos neu'r gwyliau ysgol lle bo angen.
Yn dilyn y
broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y
Cabinet.
Dewis eitemau priodol o agenda'r Cabinet (Adroddiadau'r Cabinet yn amgaeedig ar gyfer yr aelodau craffu)
Cofnodion:
Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar
agenda'r Cabinet:
Cynllun Gweithredu'r Cymoedd - Adroddiad Cynnydd
Trafododd yr aelodau'r diffyg cludiant ar hyn o
bryd i wasanaethu cymunedau'r cymoedd. Nodwyd bod Cyd-bwyllgor y Fargen
Ddinesig wedi sefydlu Is-bwyllgor
Trafnidiaeth cysgodol yn ddiweddar, gyda chytundeb Llywodraeth Cymru, i fynd
i'r afael â blaenoriaethau'r dyfodol. Er bod angen gwneud llawer o waith yn yr
ardal hon, roedd y blociau adeiladau'n cael eu rhoi yn eu lle i wella'r
sefyllfa gyfredol.
Trafodwyd deiliadaeth uchel unedau busnes bach yng
nghymunedau'r cymoedd, a nododd aelodau'r dyraniad ychwanegol a wnaed yn y
rhaglen gyfalaf adfywio er mwyn gallu manteisio ar gyfleoedd ariannu posib.
Trafodwyd enghreifftiau o fentrau cymdeithasol, gan
gynnwys y gwasanaeth gofal cartref yn y dyfodol. Byddai'r gwasanaeth yn fwy
daearyddol yn y dyfodol, ac yn darparu swyddi lleol i bobl leol. Trafodwyd y
gwahaniaeth rhwng y gwasanaeth cymorth cartref (gofal personol lefel isel) a'r
gwasanaeth gofal cartref (lefel uwch a pheth gofal meddygol).
Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.
Trefniadau'r Dyfodol mewn perthynas â
Chyfranddaliadau Cyngor Castell-nedd Port Talbot yng nghwmïau Baglan Bay
Company Limited a Coed Darcy Limited.
Mewn ymateb i gwestiynau'r aelodau, eglurodd
swyddogion mai pris y cyfranddaliadau a ddaliwyd gan y cyngor mewn perthynas â
Coed Darcy Limited oedd £1.
Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.