Strategaeth Busnes CCTV
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddwyd y diweddaraf i aelodau ynghylch
ailfodelu'r gwasanaeth CCTV, fel y nodwyd yn yr adroddiad preifat a
ddosbarthwyd.
Esboniodd swyddogion fod llawer o newidiadau wedi
bod i'r gwasanaeth CCTV dros nifer o flynyddoedd. Amlygwyd nad oedd gan y
cyngor ddyletswydd statudol i ddarparu gwasanaeth CCTV mewn mannau cyhoeddus,
er y cytunwyd bod hyn yn gyfraniad pwysig at ddiogelwch cymunedol.
Pwysleisiwyd y byddai ailfodelu'r gwasanaeth yn
arwain at waith ychwanegol i'r ystafell rheoli CCTC ac y byddai'r gwasanaeth yn
darparu gwell gwasanaeth monitro, er y byddai angen profi'r farchnad mewn rhai
ardaloedd. Nodwyd bod cefnogaeth Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth
Cyhoeddus wedi'i darparu i ddatblygu achos busnes er mwyn profi dichonoldeb
amrywio'r gwasanaeth presennol.
Aeth y swyddogion ymlaen i esbonio bod yn rhaid i'r
cyngor barchu hawliau dynol wrth osod camerâu, ac roedd angen tystiolaeth er
mwyn rhoi camerâu mewn rhai lleoliadau.
Yn ogystal â CCTV, nodwyd bod amrywiaeth o fentrau
eraill a allai helpu i ddiogelu'r cyhoedd. Esboniodd swyddogion fod gwybodaeth
ar gael am amrywiaeth o fentrau a'i bod yn cael ei chyhoeddi ar gyfryngau
cymdeithasol. Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy gysylltu â'r Tîm Diogelwch
Cymunedol.
Yn dilyn proses graffu, cytunwyd i nodi'r
adroddiad.