Craffu Cyn Penderfynu
Cofnodion:
Craffodd y pwyllgor yr eitemau cabinet
canlynol:
Cyllideb Ddrafft 2020/2021 i Ymgynghori
arni
Ystyriodd y Cynghorwyr gyllideb ddrafft
2020/2021 cyn iddi fod yn destun ymgynghori.
Gofynnwyd am eglurhad ynghylch pam nad
oedd cronfeydd ychwanegol wrth gefn o gyllideb y Cyngor yn cael eu defnyddio.
Rhoddodd swyddogion drosolwg o’r sefyllfa bresennol o ran cronfeydd wrth gefn
(rhai cyffredinol a rhai penodol), ac esboniwyd nad oedd unrhyw sicrwydd
ynghylch faint o arian fyddai ar gael gan Lywodraeth Cymru ym mlynyddoedd y
dyfodol, felly roedd yn gyfrifol ac yn ddoeth i gadw cronfeydd wrth gefn cyhyd
â phosibl.
Trafodwyd y
cynnig i gyflwyno 5% o gynnydd i’r Dreth Gyngor, yn ogystal â Chynllun
Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, a oedd ar gael i aelwydydd dan anfantais ariannol
ar draws Cymru. Nodwyd bod £244 miliwn ar gael ar draws Cymru - a £16 miliwn
ohono wedi’i ddyrannu i Gastell-nedd Port Talbot, gyda 17,000 o bobl yn elwa ar
y cynllun.
Cydnabu’r Cynghorwyr fod lefel y Dreth
Gyngor yn faich sylweddol i rai pobl, ond nodwyd bod yn rhaid dod o hyd i
£700,000 yn ychwanegol o rywle arall i lenwi’r bwlch yn y gyllideb am bob 1% a
dynnwyd oddi ar y cynnydd arfaethedig i’r Dreth Gyngor.
Trafodwyd y canlynol:
·
Grantiau i wasanaethau hamdden
·
Strwythur a chyfnod yr
ymgynghoriad
·
Pensiynwyr a phraeseptau
diffoddwyr tân
Pwysleisiodd yr Aelod Cabinet dros
Gyllid mor bwysig oedd hi i gynifer o bobl â phosibl ymateb i’r ymgynghoriad,
yn yr amser fyddai ar gael.
Ar ôl craffu, roedd y pwyllgor yn
cefnogi’r cynigion i’r cabinet eu hystyried.
Cynllun Cydraddoldeb Strategol Drafft
2020-2024
Trafododd y Cynghorwyr yr adroddiad a
ddosbarthwyd, gan gynnwys a oedd digon o sylw i drosedd casineb mewn
digwyddiadau chwaraeon. Nodwyd y byddai’n cael ei gynnwys yn rhan o’r
ymgynghoriad.
Mynegwyd pryder ynghylch ‘aneglurder’ y
cyfeiriad yn yr adran yn yr adroddiad am effaith ar y cymoedd
(“The draft equalities objectives, and the actions identified to deliver them,
will be achieved against a backdrop of a reduced workforce alongside ongoing
financial challenges”). Esboniodd swyddogion y byddai Asesiad Effaith
Integredig llawn yn cael ei gynnal yn dilyn yr ymgynghoriad, ac yn cael ei
ategu i iteriad nesaf y Cynllun.
Roedd y Cynghorwyr o’r farn y dylid
cynnwys y gair ‘parhau’ lle y byddai angen yn y Cynllun drafft, er mwyn
cydnabod bod rhai amcanion eisoes wedi’u hystyried yn y Cynllun blaenorol.
Nodwyd bod y Cynllun drafft yn ystyried
beth oedd yn bosibl o fewn yr adnoddau a oedd ar gael i’r Cyngor ar hyn o bryd.
Trafodwyd y broses ymgynghori, a’r dulliau i’w defnyddio wrth geisio denu
ymatebwyr.
Trafodwyd bwlio – tuag at ddisgyblion
ac athrawon fel ei gilydd, yn ogystal â’r ffordd caiff data ei gipio, a
mecanweithiau adrodd.
Ar ôl craffu, roedd y pwyllgor yn
cefnogi’r cynigion i’r cabinet eu hystyried.
Lansio’r Panel Dinasyddion
Esboniodd swyddogion na fyddai’r Panel Dinasyddion yn disodli ymgynghoriadau ffurfiol a gynhelir gan y Cyngor. Byddai holiaduron yn cael eu ffurfio gan y tîm cyfathrebu a’u hanfon at grŵp cynrychioliadol yn ddemograffaidd o ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2